Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Rhif. 10.] MAI, 1836. [Cyf I. COFIANT Y PARCH. ROBERT SIMPSON, D.D. GTNT ATHRAW DUWINYDDOL ATHROFA HOXTON. Ganwyd gwrthddrych y Cofiant hwn yn Little Tillerye Farin, Orwell, swydd Kinross, yn yr Alban; yr oedd eudeulu wedi trigiannu ar y fferm hon dros amryw genedlaethau, ac y mae un p'i hynafìaid wedi ei gof- resu yn mhlith yr enwogion a ddy- oddefasant yn achos cydwybod, o dan deyrnasiad Iago yr Áil. Yr oedd ei dad wedi ei olygu i'r weinid- ogaeth, a derbyniodd addysg ieith- yddol yn rhag-barotöawl i'w fynediad i Brif-ysgol St. Andrew; ond trwy farwolaeth ei dad, pan yr oedd yn 16eg oed, fe'i cadwyd gartref i am- aethu y fferm dadogaethol. Priod- odd yn ieuanc, a Robert oedd ei gyntaf-anedig. Pan yn nghylch saith neu wyth mlwydd oed, cymmerwyd ei ofal gan ei fam-gu, gweddw ag oedd yn cael ei mawr barchu yn nghylchoedd crefyddol y gymmydogaeth. Wedi treulio rhai blynyddau mewn bywyd amaethyddol, fe symudodd i Dun- fermline, lle y rhwymodd ei hun gyda bretbyn-driniwr a lliwiwr, gyda yr hwn yr arosodd amryw flynyddau. Yn awyddus i gynnyddu mewn gwy- bodaeth o'i alwedigaeth, cymmerodd daith i Loegr, a chyrhaeddodd Co- therstone, yn agos i Barnard-Castle, Durhana, a phenderfynodd sefydlu yno. Yr oedd, cyn ei ymadawiad â'r Albán, wedi ymuno â'r eglwys yn mhÙth yr Antiburghers; yn Co- tuerstoae ymunodd â'r eglwys gyn- uuüeidíaol, dan ofal y Parch. Mr. Prattman, yr hwn a fu am lawer o flynyddoedd yu weinidog llafurus a defnyddiol yn y rhan dỳwyll hyny o'r wladwriaeth. Oddeutu yr amser hyn anrhyd- eddwyd ef â'r fath ymweliad oddi- wrth Dduw, ag abarodd iddo bender- fynu nad oedd ei holl grefydd yn flaenorol ond twyll a rhagrith. ÎFe ddichon iddo gamgymmeryd yn hyn; ni ddylid profi cywirdeb crefyddol wrth gysuron crefyddol. Mae yn bosibl fod dyn yn cael ei " arwain gan yr ysbryd" flynyddau cyn iddo fwynhau y "rhyddid â'r hon y rhyddhaodd Crist ni." Yr oedd profiad a theimladau Mr. Simpson yr amser hyn yn dra nodedig: yr oedd gallu yn awr yn gydfynedol.â phregethiad y gair ag oedd yn ddy- eithr iddo,—anfonwyd saeth argy- hoeddiad i waelod ei galon, canfydd- odd bechadurusrwydd pechod mewn dull newydd, fe adfywiodd ac yntau a fu farw. Gweithiodd ei argy- hoeddiadau cryfion ei deimladau i raddau o dristwch annhrae^iol; yr oedd yn hollol amddifad o gysur a heddwch. Wedi parliau yn hir yn y sefyllfa ofidus a thruenus hon, teim- lodd waredigaeth yn ei ryddhau, a phen-arglwyddiaethol ras yr efengyl; penderfynodd i daflu ei hunan a'i oll ar Iesu Grist, a braîdd yn union- gyrchol profodd y taDgnefedd na all y byd ei roddi na'i gymmeryd ym- aith. Yr oedd ei orfoledd yn awr mor anrihraethol à'i dristwch blaen-