Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. IlHIF. 18.] IONAWR, 1837. [Cyf. II. COFIANT Y DIWEDDAR BARCH. WILLIAM THÜMAS, STONE, SWYDD STAFFOED. Ganwyd gwrthddrych y Cofiant hwn yn Mhenywern, yn agos i Lan- elli, yn swydd Gaerfyrddin ; yr oedd ei rieni raewn amgylehiadau eysurus yn y byd, ac yn barchus iawn yn y gymmydogaeth yn gyfí'redinol. Yr oedd ganddo ddau ewythr yn y weinidogaeth : un, brawd ei dad, yr hwn a gafodd ei ddwyn i fynu yn Athrofa Caerfyrddin, ac wedi hyny yn Nghaerwrangon, ac ani ychydig amser bu yn weinidog ar eglwys y di- weddar M. Henry, yn Nghaer, ond ni phregethodd athrawiaeth Mr. H.; yr oedd o ran ei farn yn Undodwr, ond yn dra pharchus pa le bynag yr adwaenid ef; bu farw yn Mhen- ywern, lle y bu yn preswylio am dro, mewn gobaith y byddai i'w iechyd gael ei adferyd; mewn can- lyniad i'w arosiad yma, ennillodd ei frawd i fod o'r un egwyddorion ag ef ei hunan, a bu yn bleidiwr gwresog o athrawiaethau Undodaidd, ac, fel yr oedd yn naturiol, dymunai ddwyn ei fab i fynu yn yr un; ond bu farw pan nad oedd ei fab ond ieuanc, a chyn ei fod wedi mabwysiadu unrhyw gred neillduol mewn perthynas i'r grefydd Gristionogol. Ni chofleid- iodd ei fam mo athrawiaethau ei dad, ond dewisai weninidogaeth efeng- ylaidd. Yn fuan ar ol marwolaeth ei dad, ei ewythr arall, brawd ei fam, yr hwn oedd y pryd hwnw yn wein- ìdog yn Tierscross a Rosemarket, yn swydd Benfro, a'i hannerchodd ef a'i fam mewn llythyr caruaidd, yn yr hwn y gwasgai ar eu meddwl y pwys o grefydd bersonol, addoliad teulu- aidd, a chysson ymlyniad wrth foddion gras, a dymunai arnynt eill dau i chwilio yr Ysgrythyrau dros- tynt eu hunain, ac yn neillduol an- nogai hwynt i ddarllen y Bibl yn Gyrnraeg, yr hwn a ddeallent yn well nâ'r Saesonaeg; ond y prif beth a'i hannogodd i ysgrifenu fel hyn oedd, ei fod yn hysbys fod gan- ddynt " Argraffiad Diwygiedig Bel- sham," (fel ei cam-cnwir, oblegid y mae yn mhell o fod yn ddiwygiad ar yr argraffiad derbyniedig o'r Testa- ment Newydd, fel mae yn hysbys i bawb sy yn gyfarwydd ag ieithoedd gwreiddiol y Testament Newydd,) yr oedd ei dad yn hofF iawn o hwn, hwn oedd ei gyfaill gwastadol, ei destun-lyfr, ei unig Fibl, ei gwbl;— barnwyd gan hyny ei fod o bwys i gadw y gwr ieuanc, (yr hwn yn awr oedd yn dechreu fiurfio ei olygiadau am athrawiaethäu Cristionogol,) rhag cael ei arwain ar gyfeiliorn gan y fath haeriadau di-sail ac a gyn- nwysa ysgrifeniadau hunanol ac an- nheg yr awdwr hwnw. Ni fu y lly- thyr hwnw yn ddi-argrafí'ar feddyliau y fam a'i mhab ; trwyddo yr arwein- wyd y ddau dan weinidogaeth rymus a bywiog y diweddar Barch. Howe.il Williams, yn Nghapel Als, Llanellì, ac yn fuan ymunodd y ddau â'r eglwys yno. Oddeutu yr amser yma ein cyfaill ymadawedig, yn nghyd ag ÿchydig