Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Rhif. 22.] MAI, 1837. [Cyf. II. COFIANT Y DIWEDDAR BARCH. SAMUEL PRICE, O LANEDI, SWYDD GAERFYRDDIN. Mae dynion yn eu taith trwy y byd yn gwneyd ôlion annilëadwy, y rhai a ddilynir gan eu hol-oesolion ; ae y raae pwysigrwydd ymddygiadau dyn- ion yn eu gyrfa trwy fywyd yn troi, i raddau helaeth, ar y sefyllfaoedd y byddont ynddynt, a'r gradd o ddy- lanwad (influence) fyddont yn ei feddu. Mae bywydau breninoedd drwg neu dda yn debyg o effeithio ar drigolion teyrnas—mae ymddyg- iadau gweinidogion efengyl yn eu bywyd yn ysgrifenu argraff ar y gyramydogaeth y byddont yn llafurio ynddi; gwasanaeth i Dduw, gan hyny, yw gwneyd pob ymdreclj, a defnyddio pob mesur i ddileu ôlion y rhai a wnaethant ddrwg, ac amlygu eiddo y rhai a wnaethant dda, fel y gallont lefaru, er wedi marw. Fe allai nad oes dim yn fwy effeithiol i arwain dynion i gofleidio egwyddor- ion nâ darllen hanes bywydau y rhai trwy ffydd ac amynedd a feddiannas- ant yr addewidion. Dan yr ystyriaethau hyn ymdrech- ais gasglu cymmaint ag a fedrais o hanes y diweddar Barch. Samuel Price, yr hwn mae ei glod yn yr holl eglwysi. Ganwyd ef yn Penhemwen- fawr, plwyf Llangammarch, swydd Frycheiniog, ar yr 28ain o Ionawr, 1785. Disgynodd o achau enwog mewn duwioldeb a rhinwedd; enwau ei dad a'i fam oeddent Dafydd ac Elizaheth Price, ond dygwyd Sam- uel i fynu gan mwyaf yn nheulu ei dadcu, a than ei olygiad, sef yr enwog a'r duwiol Isaac Price, gynt o Lan- wrtyd; bu yr hen weinidog defnydd- iol hwn yn byw yn Penhemwenfawr am yspaid deugain mlynedd, yn mha amser y traddodwyd yno filoedd o bregethau gwlithog, a channoedd o bererinion a deimlasant ei fod yn dŷ i Dduw ac yn borth i'r nefoedd; mynych y buasent yma yn canmoî eu Creawdwr hyd ddeuddeg ac un o'r gloch yn y boreu ; ac yn amser y diwygiad mawr a rhyfedd a fu o gylch y flwyddyn 1782, pan ym- ddangosodd y goleuni gogleddawl mwyaf a welwyd yn yr oesoedd di- weddaf, cafwyd amser hwylus iawn ; pan fyddai y goleuni yn melldenu ac yn trystiaw yn ddychrynllyd yn yr awyr, cyffröid y cannoedd gan ofn, ennynid hwy gan awydd i foliannu y Duw a fedrai droi yr wybrenau fel y gwelai yn dda; ac yn mhlith y tyrfa- oedd yr oedd y diweddar Barchedig- ion Samuel Price, Pen-y-bont-ar- ëog-wy; Morgan Jones o'r Cymmar; David Davis, Llangatwg; a James Davis, Tygwyn. Yn yr awyr—yn yr ardal,—ie, yn y teulu bwylus hyn y cafodd Samuel Price ei fagu— yn y fan a ellid ei alw yn Fethel i fforddolion Sîon yr anadlodd gyntaf. Pan oedd o gylch naw mlwydd oed bu adfywiad neillduol ar grefydd, daeth lliaws o'r werin ieuainc i ym- ofyn am Geidwad, ac yn eu mysg daeth yntef. Yr oedd ei ysbryd yn hynod iawn o ddrylliog, a'i deimlad- au yn hwylus; mynych y gweddiai 18