Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Rhif 58.] MAI, 1840. [Cyf. V. ^COFIANT Y PARCH. HENRY GEORGE, BRYNBERIAN, SWYDD BENFRO. Nid oes diin wedi bod yn fwy cy- ifredin yn inhlith cenedloedd y ddaear, ac nis dichon i ddini fod yn weddus- uch, nâ rhyw fath o gofnodau o rin- weddau a rhagoriaethau ceraint a chyfeillion fyddo wedi marw. " Y cyfiawn fydd byth raewn coffadwr- iaeth," ydynt eiriau a lefarwyd dan Ddwyfol ddylanwadau Ysbryd doeth- ineb. Mae dynolry w hefyd yn cyd- uno yn gyffredrnol yn nghylch y dosparth sydd i'w goíhodi. Y rhin- weddol a'r cymmwynasgar yn gy- ff'redin a gyfodir i sylw, neu o leiaf y rhai a dybir felly; fel y mae geiriau ysbrydoliaeth yn cael" eu llwyr wirio, " Enw y drygionus a bydra," nid oes awydd ar neb i gofnodi y cyfryw ag na wuaethant ond niwed i gym- deithas yn eu bywyd; arnlwg gan hyny .ydyw bod gweinidogion a dreuliasant ac a ymdreuliasant yn ngwasanaeth eu cenedlaeth, yn ol ewyllys Duw, yn deilwng iawn o gael en rhesu ar lechau hanesyddiaeth, fel na byddo i'w henwau bydru, ond i fod mewn coffadwriaeth. Yr ystyr- iaethau hyn a'm cymhellant i gasglu ychydigo'r pethau hynotaf yn mywyd y diweddar Barch. Henry George, o Brynberian, swydd Benfro. Ganwyd Mr.GEORGE yn Pencnwc, plwyf Nefern, swydd Benfro, yn mis Mai, 1763; enwau ei riaint oeddynt John a Mary George; bu iddynt dri o blant,—dwy o ferched, ac un raab, sef gwrthddrych y cofíant hwn. Gafodd lawer o dynerwch yn ei ieu- enctyd ; dygwyd ef yn foreu i'w gyf- iwyno i'r Arglwydd ; bedyddiwyd ef yn Brynberian, gan y Parch. David Lloyd, a derbyniodd addysgiadau crefyddol yn foreu, ac arweiniwyd ef i dŷ yr Arglwydd yn ei ieuenctyd, ond ni ymostyngodd i gymmeryd iau Crist arno ncs cyrhaedd ei ugain mlwydd oed ; derbyniwyd ef yn aelod eglwys yn Brynberian yn y flwyddyn 1783, ac yn fuan dangosoHd trwy ei ddiwydrwydd crefyddol, ei ymddyg- iadau bucheddol, ei syched didor am wybodaeth, a'i ddoniau llithriglawn, ei fod i lanw cylch ëangach hâ'r cyffredin ; ymddangosodd yn mhlith ei gyfoedion yn fuan fei Saul, o'i ysgwyddau yn uwch nâ hwynt Tỳnodd sylw ei weinidog, a'r eglwys, a'r ardal, fel yr annogwyd ef i arfer ei ddawn yn gyhoeddus; a dechreu- odd bregethu yn mhen dwy flynëdd wedi ei dderbyn. Cyn pen ychydig ar ol iddo ddechreu pregethu, ymun- odd mewn priodas â Mary, merch Mr. Evan ac Elizabeth Lewis, Hei>- dre, plwyf Meline, swydd Benfro ; bu iddynt wyth o blant, sef pedwar o feibmn a phedair o ferched, pump o ba rai sydd yn aros hyd heddyw ; ac mae pedwar o'r pump yn aelodau hardd a defnyddiol. Wedi i Mr. G. lafurio gyda chynimeradwyaeth a llwyddiaut niawr yn Brynberian a'r cymmydogaethau, am bum mlynedd, galwodd yr eglwysi ef yn unfrydol i gyd-lafurio â Mr. S. Lloyd yn Bryn- berian, College Green, Treídra'eth, 18