Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Rhif. 62.] MEDI, 1840. [Cyf. V. ■ COFIANT GRUFFYDD JENKYN, TREFYCHAN. Un o'r prif foddion i feithrin rhin- wedd a duwioldeb ydyw dwys-ystyr- ied a myfyrio argymmeriadau duwiol a rhinweddol. Yr ydyra trwy hyn yn yfed o'u hysbryd, ac yn cael ein trawsffurfio i'w delw; mor gryf ydy w y duedd sydd ynom i efelychu pob peth a ystyriwn yn rhagorol ac ar- dderchog. Oblegid cryfder y duedd efelychoî, y mae'r Bibl, yr hwn sydd yn curo wrth holl ddorau calon dyn, yngyflawn iawn o fywgraffiadau; ac y mae yn deilwng o sylw, rnai rhin- wedd a duwioldeb, ac nid doniau a gwybodaeth, a gymmeradwyir ac a ganmolir yn nghymmeriadau yr hen dduwiolion. Mae'r Ysbryd Glân yn gysson yn rhoddi'r flaenoriaeth i addurniadau y galon ar addurniadau y pen. Yr oedd Gruffydd Jenkyn yn feddiannol ar lawer o addurniadau'r galon ; a meddyliwn mai nid anfudd- iol fyddai gosod o flaen darllenwyr y Diwygiwr fras-ddarlun o'i gym- meriad. O na byddai yn deimlad mwy dwfn a chyffredin yn eglwys Dduw, mai calon dduwiol a rhin- weddol ydyw prif fawredd, a phrif addurn cymmeriad dyn. Ond brys- iwn bellach i ddweyd ychydig am rai o'r rhinweddau o addurnent ei fywyd:— Yr oedd ei gymraeriad yn gysson iawn. Nid ar rai amserau, mewn rhyw fanau, ar rai amgylchiadau, ac mewn rhyw bethau yr oedd yn gre- fyddol; nid crefyddol ar y Sabboth, ar ben ffordd, ac yn y cwrdd yn unig ydoedd Gruffydd, ond yr oedd ei grefydd am dano yn y teulu, ar y maes, yn y ffair a'r farchnad; nid oedd yn diosg ei grefydd wrth ddiosg ei wisgoedd Sabbothol, fel y mae arfer rhai; nid rhyw geneugoeg (chameleon) o grefyddwr ydoedd, yn derbyn ei liwiau oddiwrth y gwrthrychau oeddynt yn ei amgylch- ynu; nid oedd yn myned i ysbryd pob cyfeillach, ac yn gosod i fynu â phob dyn trwy ymdebygoli iddo. Yr oedd ei oleuni yn cynnyddu fel ag yr oeddym yn dynesu tuag atò —yn ei deulu yr oedd oleuaf. Ym- ddygiad dyn yn ei deulu sydd yn profi ei egwyddorion, yno y mae gwir deimladau ac egwyddorion ei galon yn llifo allan. Trwy ei ffyddlondeb cyrhaeddodd raddau mawr iawn o ddefnyddioldeb, heb gymhorth cyfoeth mawr, na doniau a gwybodaeth o'r graddau uchaf, ond yr oedd ei gynnydd yn amlwg i bawb hyd ei fedd; yr oedd yn ffyddlon yn rahob cylch y bu yn troi ynddo yn yr eglwys,—fel aelod cyffredin, diacon, a phregethwr. " Yr hyn a allodd, efe a'i gwnaeth." Gwedi gwasanaethu swydd diacon am hir flynyddau, daeth galwad arno i droi niewn cylch mwy cy- hoeddus. Ar ol raarwolaeth y gwr duwiol hwnw, Mr. Morgans, o'r Forge, yr hwn a ddiffoddwyd yn nghanol ei wres a'i oleuni, edrychodd yr eglwys am un addas i lanw ei le 54