Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Rhif. 67.] CHWEFROR, 1841. [Cyf. VI. >>COFIANT THOMAS JENRINS, Y NEGRO, Yn bresennol Cenadwr yn Ynys Mauritius. TrNODD yr hanes a ganlyn gymmaint o fy sylw yn ddiweddar, fel y penderfynais ei throsglwyddo i'r Gymraeg a'i hanfon i chwi, er ei gosod gerbron aml ddarllenwyr y Diwygiwr. Hyderaf y bydd yn llwydd- iannus fel annogaeth ychwanegol er cadarn- hau fy nghyd-ieuenctyd yn eu hymdrech am wybodaeth, ac os felly, derbyniaf dâl boddlonol am fy llafur. Anghenrheidiol sylwi, fod yr hanes hon mor rhyfeddol, fel y buasem yn petruso rhoi crediniaeth iddi, pe nas dygwyddasai yn yr Ynys yr ydym yn trigiannu, ac yn yr oes y darfu i ni ym- ddangos ynddi; ond gan fod y rhai hyn wedi cyd-gyfarfod, ac hefyd i'r cyhoeddiad o honi yn yr iaith Saesonaeg, yn mhlith cydnabod ei gwrthddrych, gael y derbyniad ag oedd yn deilyngu, fel gwirionedd, yr ydym yn ei chyfleu i'ch sylw yn yr hyder cryfaf o'i huniondeb. Thomas Jenkins ydoedd fab i frenJa Affricauaidd, a dygai yn allanol holl ar- wyddion cyffredinol y Negro. Yr oedd ei dad yn teyrnasu dros gẁr tra helaeth o'r wlad tua'r Dwyrain, ac fel yr ydym yn tyb- ied, yn cynnwys Little Cape Mount, rhan o diriogaeth Guinea, yr hon oedd yn cael ei mynychu gan y llongau Prydeinig er pwrcasu caeth-weision. Y Penadur Ne- groaidd adnabyddus i forwyr Prydain, wrth y cyfenwad Brenin Llygad Ceiliog (King Cock Eye,) oddiwrth rhyw hynodrwydd personol ynddo, wedi canfod y rhagoriaeth ag oedd dysgeidiaeth a gwareiddiaeth yn eu rhoddi i'r Ewropiaid ar yr Affricaniaid yn eu masnach, a benderfynodd anfon ei fabhynafiFrydain,fel y gallai feddiannu holl fanteision gwybodaeth. Mewn canlyn- iad, cytunodd ag un Cadben Swanstone, genedigol o Hawick, tref dra chyfrifol yn yr Alban, (Scotland,) yrhwn oedd yp hwylío tua'r lle, er cael ifori, llwch aur, &c, ar i'r plentyn gael ei gymmeryd gydag ef i'w wlad ei hun, a'i ddychwelyd yn mhen ych- ydig flynyddoedd wedi cael eì ddwyn i fynu yn nysgeidiaeth yr Ewropiaid, ac y buasai iddo ef dderbyn rhy w gymmaint pennodcdig o gynnyrch Affrica, fel tál am ei ofal. Cof oedd gan y llanc yr olygfa a gymmerodd le ar ei drosglwyddiad i Swanstone. Ei dadyn hen wr a ddaeth gyda'i fam, yr hon oedd lawer ieuengach, yn nghyd â Iluaws o ben- defigion ei deyrnas, i làn y môr lle'r oedd y llong yn aros, ac yno yn mhlith dagrau di- dor ei fam dyner galon, fe'i traddodwyd i ofal y masnachwr Prydeinig, ond nid cyn iddo ymrwymo yn y modd difrifolaf ei ddychwelyd â'i feddwl wedi ei wrteithio â chymmaint dysgeidiaeth ag y byddai yn alluog o'i dderbyn. Y llanc yn ganlynol a osodwyd ar fwrdd y llong, pryd y gwnaeth y Cadben ddewis yr enw Thomas Jenkins iddo. Swanstone a ddygodd y plentyn drosodd i Hawick, ac yr oedd oddeutu cymmeryd y moddion priodol er cyflawni ei gytundeb, pryd yn anffodus efe a dorwyd i lawr gan angeu. Gan nad oedd un rhag-ddarpar- iaeth wedi ei wneuthur er cy farfod â'r fath ddygwyddiad, Tom a fwriwyd ar y byd ëang nid yn unig yn ddifuddiedig o fodd er derbyn addysg Gristionogol, ond yn hollol amddifad o bob peth anghenrheidiol er cyf- arfodá'r amgylchiadau mwyaf gwasgedig. Mr. Swanstone a ftl farw mewn ysta/ell yn y Toicer Inn, yn nhref Hawick, pryd y darfu i Tom weini iddo yn y modd ffydd- lonaf, er yn dyoddef yn llym oddiwrth erwindeb y gauaf Albanaidd. Ar ol marw- olaeth ei arolygwr (guardian,) yr oedd yn y sefyllfa fwyaf druenus o herwydd oerfel y tymmor, hyd nes y darfu i Mrs. Brown, yn