Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Rhif. 128.] MAWRTH, 1846. [Cyf. XI. PETHiU GOFYNOL EE SICRHAU LLWYDDIANT CREFYDDOL YH YE EGLWYSI. GAN Y PARCH. J. MATHEWS, CASNEWYDD. Gwibionedd yw i fod gan Dduw ei eg- Iwysi yn y byd, a'r rhai hyny yn anymddi- byno! ar en gilydd o ran eu dyledswyddau mewnol, ond yn ymddibynol, ac yn un yn eu hamcanion cyffredinol ac allanol : nn eglwys i Grist mewn corff dirgeledig, Ephes, 1, 23. Esílwysi lawer yn eu sefyllfa amlysredig yn mhlith dynolryw—" Eglwysi Crìst," " eghoysi'r saint," " eghoysi Âsia^ (< eglwysi Macedonia" &c. Y mae'r eg- Iwysi crybwylledig yn gyffredinol yn ar- wyddoyn ddiamheuol, wahanolgynnulleid- faoedd o grefyddwyr Cristionogrol wedi ffurfio eu hunain yn wahanol gymdeithasau pennodol, er dwyn yn mlaen wasanaeth yr Arglwydd yn eu plith yn ol rheol ei air santaidd ; a lle bynag y byddo y fath gym- deithasau cynnnlleidfaol, gellir dweyd fod yno eglwysi o'r un fath â'r rhai a enwyd. Yn awr, nid oes diro yn fwy dymunol i'r saint, ac yn fwy o ogoniant i Dduw, nâ bod llwyddíant crefyddol yn bod yn yr eglwyei; diau fod gogoniant Duw a lles dynion wedi eu hanwahanol gyssylltu yn nghyd yn y cyfryw Iwyddiant. Gellir dweyd oddiar seiliau da, i fod llwyddiant crefyddol yn bod pan y byddo'r " Arglwydd yn ychwan- egu beunydd at yr eglwysi y rhai a fyddant gadwedig:" crefydd yn myned yn mlaen yn hwylus,crefyddwyr yn amlhau, Cristyn cael gweled o lafur ei enaid gan gael ei ddiwallu, a gogoniaut mynegol Duw yn ymdderchafu yn yr eglwysi. Yn awr, er aicrhau y llwyddiant crefyddol hwn, cawn enwi y pethau a ganlyn:— 1. Rhaid cael pob un a broffesant gref- ydd yn yr eglwysi yn ddynlon wedi eu bail- eni: " Oddieithr geni dyn drachefn, ni ddichon efe weled teyrnas Dduw." " Na ryfedda ddywedyd o honof wrthyt, y mae yn rhaid eichgeni chwi drachefn." Y mae yr " ail-eni" a'r " geni drachefn" hwn, yn cynnwys y cyfnewidiad grasol ag sydd raid i bob aelod crefyddol i gael gwybod am dano cyn y byddont mewn sefyllfa ach- ubol. Fod dynion mewn eglwysi, ac yn am- ddifad o hyn sydd wedi bod yn achos o ofid mawr i'r ea;Iwysi ; y saint gant eu gofidio, gweinidogion gant eu blinn, y llwyddiant ei attal, ac enw Duw ei warthruddo o'u her- wydd. Fod dynion proffesedig i'w cael heb fod wedi eu hail-eni, a'u cyfnewid trwy ras, sydd wirionedd ysgrythyrol: " Yna tebyg fydd teyrnas nefoedd i ddego forwynion, y rhai a gymerasant eu lampau ac a aeth- ant i gyfarfod â'r priod-fab; a phurop o honyntoedd gall,aphumb yn ffol." Wrth y rbai call y deallir rhai wedi eu hail-enì, ac yn meddu ar wir ras; ac wrth y rhai ffo' y deallir proffeswyr yn unig, heb ras Duw ganddynt, ac beb eubail-eni erioed. Ác yn ol y ddatnmeg hon, gall eglwys fod han- ner yn hanaer, y naili yn gall a'r llall yn ffol. Amlwg yw nad oedd Israel gyat ddim heb eu Uuaws cymysg yn yr anialwch, y rhai wrth bob tebyg a ddechreuent bob drwg yn mysg y genedl. "A'r lliaws cymysg yr hwn ydoedd yn eu mysg a flye- iasant yn ddirfawr," Num. 11, 4. Yn amser Ezra mawr y drwg a wnaeth Israel iddynt eu hunain yn eu gwaith yn ymgym- ysgu â "phobl y gwledydd." Yr oedd y cyffelyb ddynion yn rhwym ac yn fagl i Israel: yr oeddynt " yn gethri yn eich 10