Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Rhif. 134. MEDI, 1846. Cyf. XI. EFFEITHIOLDEB SIAMPL. GAN Y PARCH. EDWARD ROBERTS, CWMAFON. "Ein tadau a addolasant yn y mynydd hwn; ac yr ydych chwi yn dywedyd mai yn Jerusaletn y mae y man lle y mae yn rhaid addoli."—Ioan 4, 20. CyNYGiR i'n sylw yn y geiriau hyn amryw wirioneddau yn dal pertbynas ag Effeith- ioldeb Siampl, a diau y dylern dynu addysgiadau pwysig oddiwrthynt. 1. Mynych y dilynir holl ymddygiadau personau fel siampl beb wahaniaethu y daoddiwrth y drwg : "Ein tadau a addolas- anl." Da iawn; gwnaethant yr hyn a ddylasent: addoIiDuwaddylaidyn. Niall rhieni roddi gwell siampl o flaen eu plant, a'u hiliogaeth, nag addoli: sef cydnabod bodoliaeth y goruchaf Dduw—addef fod y Duw hwnw yn sylwi ar ddyn—ac mai dyledswydd y creadur yw ymostwng i'w Greawdwr, a chyflwyno niawl a diolchgar- wch iddo am ei gymwynasgarwch. O, mor brydferth yw gweled yr henafgwyr yn tywys yr ieuenctyd i amgylchu allor y Jehofa, yno yn cyd-ymgrymu, ac yn cyd- dywallt eu calonau mewn gweddi a moliant. Galarus meddwl fod llawer o rieni yn Nghymru beb erioed fod yn addoli yn ngwydd eu plant a'u pertbynasau ; y mae y cyfryw yn fwy di-Dduw nâ tbadau y Samariaid. Yr oedd hiliogaeth y Samar- iaid gynt yn gallu tystio fod eu tadau yn addoli; yr oeddynt hwythau hefyd yn dilyn siampl eo tadau; yn byn yr oedd- ynt yn rhagori ar lawero ieuenctyd y wlad bon. Y mae miloedd o bobl ieuainc yr oes hon yn rby goeg-falch i benlinio o flaen Duw en tadau—y Duw a wnaeth y oyd, a'r oll ag sydd ynddo—yr hwn sydd lanach ei olygon nas gall edrych ar anwir- edd ; er y Uyfant y llwch, ao yr ymdreigl- ant yn y dom o flaen Baccus a Gwener. Yr oedd y Samariaid yn addoli Duw y nef- oedd yn ol siampl eu tadau: yn hyn yr oeddynt yn ganmoladwy; ond y mae y gwaethaf yn ol: " Ein tadau a addolasant yn y mynydd htcn," sef Gerizim. Dyma y drwg, yn hyn yroeddyntfeius: cyfododd Abraham allor ar fynydd Gerizim, a bu Jacob yn addoli yn yr un fan. Hyd sefydl- iad goruchwyliaeth Moses yr oedd mor gyfreithlon addoli yno â rhyw le arall. Ar ol hyny ntd oedd yn gyfreithlon aberthu a chynal gwyliau ond mewn un man, a dewis- odd Duw Jerusalem. Ond yn groes i orcbymyn yr Arglwydd adeiladodd y Samariaid, drwyfganiatad Alexander Fawr, deml i Arglwydd y Hooedd ar fynydd Geriiim, a hwy a addolasant yno ; dilyn- wyd eu siampl gan eu holynwyr yn hyn hefyd ; ni ddetholasant yr hyn oedd gywir oddiwrth yr hyn oedd gyfeiliornHS. Nid eithrind na dygwyddiad oedd hyn, ond enghraifft o'r modd y mae plantdynion yn ymddwyn yn gyffredin. Os bydd gwenith ac efrau yn tyfu yn yr un maes, cant yr un driniaeth ; os bydd aur a sorod yn yr un wythien, cant eu casglu eill dati i'r Ilestr, neu eu taflu gyda'u gilydd i'r domen. Pan y dewisir dyn enwog yn wrthddrych i'w ddilyn, cofleidir y bai a'r cyfeiliornad mor sercbog â'r rhinwedd. Y dull cyffredin o roddi gwenwyn i bryfed dinystriol yw eî gymysgu à sylwedd dymunol a maethlawn. Felly, y modd y mae satan yn llwyddo i gael y byd i gymeryd ei sylwedd roarwol yw ei gymysgu & rhyw beth da. Buasaì y pwnc o draws-sylweddiad yn Uawer rhy 34