Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWE. Rhif. 154.] MAI, 1848. [Cyf. XIII. CYNYDD AC EFFEITHIOLRWYDD ADDYSGIAETH WIRFODDOL, FEL EI HARDDANGOSIR YN NGHYMRU. (Dyfyniad o Âraeth y Parch. H. Richard, yn Crosby Hall, Mawrth y 3ydd, 1848; Dr. Campbell yn y gadair.J [Wrth roddi rheswm paham yr oedd y pwnc hwn yn cael lle yn rhes y darlithiau presenol ar Addysg, dywedodd Mr. Bjchard,]—Dichon fod llawer o bethau yn nanes blaenorol a sefyllfa bresenol Cymru, ag sydd yn teilyngu ac a dalai ymchwil yr athronydd a'r Cristion. Gellir ystyried ei thrigolion, gyda theimlad cymysg o bryder a pharch, yn cyfansoddi, o bosibl fel y gwnant, yr unig weddillion digymysg a phur o'r genedl Geltaidd, y rhai a ddalient le mor fawr unwaith yn Ewrop— meddianwyr cysefin yr ynys hon—yr haen gyntaf yn y ffurfiad cymdeithasol rhy- fedd a arddengys yn bresenol—y rhai a gadwasant eu cymeriad cenedlaethol yn ddigymysg, eu hiaith yn ei phurdeb, Hawer o arferion eu tadau, a darnau o lenydd- iaeth draddodiadol, yn nghanol yr holl gyfnewidiadau a achoswyd gan ymosod- iadau olynol y Rhufeiniaid, Pictiaid, Sacsoniaid, Daniaid, a'r Normaniaid, y rhai a ruthrent dros wyneb y wlad fel cynifer o lifogydd. Hefyd, dichon ei bod yn wir fod y bobl hyn, ar ol yn gyntaf gael eu gorthrymu, ac yna eu hesgeuluso am lawer o ganrifoedd, yn ystod y can mlynedd diweddaf wedi eu hadferyd i fywyd newydd, trwy i egwyddorion ysbrydol gael eu gwasgaru yn eu mysg, y rhai a'u codasant o farbariaeth i oleuni a rhyddid yr efengyl; ac y mae effeithiau y cyfryw i'w gweled yn fwy amlwg yn y peiriant perffaithiach o foddion addysg ac addoliad ysbrydol, nag a welwyd, tebygol, yn un man wedi ei gynyrchu gan dduwioldeb gwirfoddawl Crist- ionogion tlodion, ond eto cywir-galon. Geill hyn, a llawer yn ychwaneg, fod yn wirionedd; eithr nid yn herwydd hyn y mae fy ngwlad wedi ei chodi i'r fan hon heno, ond oblegid fod yr holl genedl wedi ei dwyn i brawf cyhoeddus gan y Llyw- odraeth, dan y cyhuddiadau mwyaf pwysig yn erbyn ei dealldwriaeth, ei moesol- deb, a'i chrefydd; o'r herwydd, y mae y rhai ydynt yn teimlo ychydig barch ati wedi rhoddi y cyfleusdra hwn i un o'i mheibion i ddweyd gair drosti, cyn ei rhoddi i fynu i gael ei chondemnio. Dichon hefyd fod y boneddigion a drefnant yr ar- eithiau presenol yn teimlo y dylai pawb gyfeirio eu llygaid at Gymru, pan y gwyddir, neu y tybir, ei bod yn debyg o gael ei dewis i ymladd brwydr egwyddorion, ar yr hon yr ymddibyna rhyddid, annibyniaeth, cynydd, ac urddas cymdeithasol y wlad hon. Dios y gwyddoch i'r Llywodraeth, tua diwedd 1846, ddanfon Dirprwyaeth i Gymru i chwilio i mewn i sefyllfa Addysg. Yr oedd y Ddirprwyaeth yn cael ei gwneyd i fynu gan Mr. Lingen, Mr. Symons, a Mr. Vaughan Johnson. Cyflawnasant eu gwaith, ac y mae cynyrchion eu llafur ger ein bron mewn tair cyfrol helaeth. Cymerir yn ganiataol fod y Ddirprwyaeth yn ragredegydd i ryw gyfundraeth oddi- wrth y Llywodraeth er addysgu y bobl. Ac os ydyw yr ysbryd yn yr hwn y cafodd yr ymchwil ei ddwyn oddiamgylch i'w gymeryd fel dangoseg o'u hamcanion yn ol llaw, dylai greu pryder yn mynwes pob gwir gyfaill i Ymneillduaeth Efengylaidd ac Addysgiaeth Wirfoddol. Wrth ymdrin â'r pwnc a ymddiriedwyd i mi, mabwysia'daf y cynllun canlynol:— Rhoddaf hanes cynydd Addysgiaeth yn y Dywysogaeth o'r amser boreuaf hyd gyfodiad Methodistiaeth ac Ymneillduaeth ddiweddar; yna, pa beth wnaed yno gydag Addysgiaeth o'r amser hyny hyd yn bresenol; ac yn olaf, i gymeryd Ad- 19