Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Rhif. 169.] AWST, 1849. [Cyf. XIV. Y LLWYDDIANT MAWR. GAN Y PARCH. JOHN MATHEWS, CA8TELLNEDD. Y mas yn ffaith anwadadwy, nad oes unrhyw grefydd a lwydda hyd nes cael goruchafiaeth llwyr ar holl dwyll-grefyddau'r byd; y grefydd ag sydd yn Ddwyfol yn ei Hawdwr, ysgrythyrol yn ei sefydliad, santaidd yn ei hegwyddorion, pur yn efgorchymynion, ysbrydol yn ei nhatur, a moesol yn y moddion ô'i dygiad yn mlaen ; y grefydd ag sydd â iachawdwriaeth dynion yn ddyben blaenaf, a gogoniant Duw yn ddyben penaf—dyma y grefydd, yn ddiamheuol, ag y mae dyn- ìon santaidd Duw, yn mhob oes, wedi ei phleidioa'i hamddiffyn; a llwyddiant hon yn unig sydd yn cael ei sicrhau trwy addewidion y digelwyddog Dduw yn ngair y gwirionedd: " Yr hwn wedi iddo lefaru lawer gwaith, a llawer modd, gynt wrth y tadau trwy y proflwydi, yn y dyddiau diweddaf hyn a lefarodd wrthym ni yn ei Fab." Gellir galw y grefydd Ddwyfol ac ysgrythyrol hon, yn grefydd Gristionogol; Crist Iesu, a hwnw wedi ei groeshoelio, yw ei swm a'i sylwedd hi, ei sylfaen, a'i phen conglfaen. Yrn awr, gan fod yn rhaid i bob rhwystr gael ei dỳnu y-maith cyn byddo i'r Llwyddiant Mawr gymeryd lle, cymerwn olwg ar— Yprif rwystrau ag sydd ar ffordd Llwyddiant y Grefydd Gristionogol yn y byd.—Diamheuol y gellir dweyd, fod anwybodaeth, anystyriaeth, anghrediniaeth, anfoesoldeb, anghymedroldeb, ac afradlonrwydd preswylwyr gwlad efengyl, yn rhwystrau mawr a chedyrn iawn ar ffordd crefydd i lwyddo a lledaenu yn y byd. Ond' tra na byddo dynion felly yn proffesu perthynas weledig ag unrhyw enwad o grefyddwyr, nis gall y cyfryw atal lhvyddiant mewnol crefydd yn ei pherthynas â'i gwrthddrychau, mwy nag y gallasai byddinoedd yr Aifftiaid, y Moabiaid, a'r Canaan- eaid gynt, atal llwyddiant yr Israeliaid. Nid tu faes i Israel Duw oedd y rhwystr mwyaf i'r fyddin etholedig i fuddygoliaethu ar ei gelynion, ond tu fewn. Ym- ddengys fod un " Achan" yn y gwersyll yn gwneyd mwy o wir niwed nâ'r holl fyddinoedd tu faes iddo. Felly dynion twyllodrus a rhagrithiol, yn proffesu yr ad- waenant Dduw, ac ar weithredoedd yn ei wadu, ynghyd â holl dwyll-grefyddwyr y byd, ydynt, yn ddiau, y rhai all wneyd y niwed mwyaf er atal llwyddiant y wir grefydd ar y ddaear. Dynion yn dwyn enw crefyddol heb fod yn wir grefyddwyr, yn arddel perthynas ag eglwys Crist heb fyw i Grist, yn anfl'yddlon ac anonest i'w cyfamod, y rhai hyn ydynt yn týnu fwyaf ar grefydd i lawr, gan roddi cam-esboniad o hòni, ac atal ei gwir lwyddiant hi; eto, er cymaint o rwystr all dynion o'r fath hyn wneyd i grefydd lesu Grist mewn gwahanol ddulliau, tra na byddo gan y cyfryw fawr o fanteision tymhorol, cyfoeth naturiol, a dylanwad teyrnasol yn rym o'r tu cefn iddynt, nis gall y niwed fod ond lleol, terfynol, ac o fỳr barhad: bydded eu bod yn perthyn i'r enwad a fyddont; ond os ceir fod rhyw enwad o grefyddwyr wedi ymgysylltu â'r galluoedd gwladol, lle byddont yn hanfodi, gan ymwrthod â'r Bibl fel eu hunig reol mewn ffydd ac ymarweddiad ; cymeryd y brenin neu y frenines wladol yn ben arnynt yn lle Iesu Grist; awdurdod, llywodr- aeth, grym, cyfoeth, a dylanwad gwladwriaethol i fod yn blaid ac amddiffynfa iddynt, diamheuoì y gellir dweyd mai crefyddwyr o'r fath hyn ydynt wedi, ac yn bod, " " -*' ''" ' """ ' " ' " " ' " " wirioneddol. Yn awr, mae rhwystrau o'r fath hyn yn llyfr y Datguddiad yn cael eu 30