Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Rhif. 216.] GORPHENAF, 1853. [Cyf. XVIII. YMFUDIAÈTH. GAN Y PARCH- JOHN REES, CANAAN. Ymfüdiaeth yw pwnc y dydd a thestyn siarad y werin. Mae'r Unol Dalaethau, Califfornia, Awstralia, Mexico, &c, yn eiriau hollol deuluaidd trwy yr holl wlad; ac awydd ar filoedd i gânu yn iach i'w treftadaeth er ymsefydlu yn y naill neu y llall o'r gwledydd uchod. Modd bynag, ymddengys fod Awstralia yn cario y blaen mewn sylw ac ymddyddan, oblegid ei chloddfeydd aur. Ymddengys fod tua mil o ddynion bob dydd, er ys cryn amser, yn ymfudo; a bydd y rhifedi hyn yn debyg o barhau am gryn amser i ddyfod. Y mae yn dra sicr mai nid damicain yw hyn; ond trefniad doeth o eiddo yr Arglwydd er poblogi parthau annhrigianòl y ddaear; ac y mae yn lled sicr taw dyledswydd uniongyrchol Prydain ydyw gwneud eu gorau i ddanfon allan ddynion addas mewn cyrff, penau, a chalonau, i ffurfio cymydogaethau newyddion; yn neillduol yn Awstralia. Fel y celo y darllenydd gipolwg ar y fath boblogaeth sydd yn New South Wales, a pha fath ddynion ddylai ymfudo yno, gosodir ger ei fron y flîgyrau canlynol:— Esgobion, yn perthyn i Eglwys Loegr.......... 93,137 Pabyddion .................................. 56,899 Presbyteriaid ................................ 18,166 Wesleyaid .................................. 10,008 Independiaid, Bedyddwyr, &c................. 6,472 Iuddewon..:................................. 979 Mahometaniaid a Phaganiaid.................. 852* Enwadau ereill .............................. 740 Yr holl boblogaeth ...................... 187,243 O ba rai y mae yn Wrrywod .............. 106,299 ------------------------Menywod .............. 81,014 Gwrrywod yn fwy o .................... 25,285 Fe welir oddiwrth yr ystadegau uchod fod y boblogaeth yn hanerog iawn ; nid oes un cyfartaledd y rhywiau, (sexes); o ganlyniad, drychfeddwl ardderchog o eiddo Mrs. Chisholem oedd myned â 900 o fenywod ieuaincf Ychydig o lwythi o'r fath a wna i'r boblogaeth dafoli; yr hyn, beth sydd yn hollol angenrheidioí er diogelwch moesau, ac felly i hyrwyddo llwyddiant o bob math. Dylid gwneud pob ymdrech i ddanfon menywod o egwyddorion da i maes; canys gwirionedd cadarn yw, fod tynged pob gwlad yn troi ar law ei mamau. Os na ellir llwyddo i gael mamau da ì blant Awstraha, fe à oesau heibio cyn y byddo crefydd i wneud un drefn ar y wlad. Y mae degau o dyddynwyr bychain yn Nghymru a chanddynt bedair neu bump o ferched da, crefyddol, a hollol addas i dnn y rhan a ddyg- wydd iddynt o waith tir, a'r un nifer o feibion, gwnai y cyfryw gymwynas â'u teu- luoedd trwy wneud pob brys i ymfudo. Os arosant yma, m fyddant ond foot slaves tra ar y ddaear; ond gallant ddod i amgylchiadau cysurus, a gweled eu * Mae y rhai hyn wedi cynyddu yn anarferol yn ddiweddar trwy fod Uawer o'r Chineaid wedi dyfod yno. t Clywsom taw Pabyddes yw Mrs. Chisholm, ac nid ydym heb ein hofnau, er cy- maint ganmolir arni, na fydd yn foddion i lefeinio y Colony ag egwyddorion y Bàb- aeth; canys y mae ýn dra sicr y gwna ei gorau i symud Pabyddion, y rhai sŷ'n dra lluosog yno ynbarod. < 26