Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGÍWR. Rhif. äfitj.] RHAGFYR, 1853. DEDDFAU EGLWYSIG AR YMNEILLDUWYR. NlD oes genym ryw hyfrydwch neillduol i fod â'n dwylaw yn ngwddf yr Eglwys Wladol: ond y mae amgylchiadau yr amseroedd, egwyddorion uniondeb, a Gair Duw, yn galw arnom i wneud gwaith ein hoes'hyd y mae ynom. Mewn ychwaneg- iad i'r anogaethau cyson sydd genym i fod yn eífro i ddadleu hawliau Teyrnas Crist, yr hon nid yw o'r byd hwn, yn erbyn y lwys-benaeth wladol, mae yr ymdrechiadau a wneir i hudo y Cymry âg ymddangosiadau teg a iaith wenieithgar dwyllodrus; ac i dwyllo y Saeson â cham-ddarluniadau gwarthus o sefyllfa foesoí ein hoff wlad, yn galw arnom i iawn ddeall ein sefyllfa, ac i ddyfal wylio ystrywiau esgobion ac offeir- iaid. Yr ydym yn Ymneillduwyr o'r Eglwys Wladol; ond nid oes awydd ar neb i ymddeheuraw o'r herwydd, sydd yn deall egwyddorion Ymncillduaeth yn iawn, ac wedi gweithredu arnynt. Ymneillduodd Egìwys Lloegr oddiwrth Eglwys Rhufain yn yr unfed ganrif ar bymtheg; ac ni buasai achos iddi wridio o'r herwydd, oni buasai iddi gymeryd ei safle lle yr oedd Rhufain, a gweithio allan ei hegwyddorion mor drwyadl ag y gwnaethai Rhufain ei hun. Eglwys Ymneillduaidd ydyw yr un Esgobyddol yn awr yn yr Alban, gan mai Henaduriaeth sydd sefydledig; ac yn America nid ydyw Esgobyddiaeth Brotestanaidd ac Esgobyddiaeth Babaidd, ond sectau, fel rhai ereill, yn byw arnynt eu hunain. Hyn oll sydd yn dangos yr an- mhriodoldeb i sefydlu unrhyw sect ag y geill crefydd fyw mewn gwlad heb unrhyw gynalyddion cnawdol,—a byw yn well, yn mwy hoyw, ac effeithiol. Yr ydym yn bwriadu rhoddi bras-linelliad o'r Deddfau Eglwysig, a'r ymyraeth anmhriodol âg Eglwys Crist sydd wedi bod yn y byd. Mae yn beth aethus i feddwl bod Seneddau wedi bod yn deddfu am ganoedd o flynyddoedd o barthed i grcfydd ; pan y buasai yn weddusach iddynt gadw eu dwylaw yn mhell oddiwrth Arch Duw. A phe edr- ychem ar ddeddf-lyfr Prydain yn awr, y mae yn agos fel llyfr eglwys, yn frith o ddeddfau, o drefniadau, o benydau, a chosbau eglwysig—yr hyn sydd yn ffaeth dòr- calonus i'w hystyried yn y bedwerydd ganrif ar bymtheg; oblegid y mae cyfreith- iau gwlad, yn ddarluniad cywirach o ansawdd feddyliol, ac o nodwedd foesol y wlad na dim arall; a gwasanaethant hefyd i drosglwyddo golygiadau a theimladau eu Uunwyr i'w dilynyddion. Mae y cyfreithiau o barthed i grefydd, bob amser, yn ddarlun mwy cywir o gyflwr meddyliol a moesol cenedl, na'r rheiny o barthed i amgylchiadau gwladol. Mae rhan fawr o'r wlad, os nad y ran amlaf, yn ffuifio eu golygiadau am grefydd, yn mesur eu rhwymedigaethau i grefydd, yn rheoleiddio eu penderfyniad o barthed i grefydd, oddiwrth gyfreithiau y wlad o barthed iddi. Nis gwaeth yn y byd pa mor wrthun, na pha mor farbaraidd y dichon i'r cyfreithiau hyn fod— y mae rhai bob amser a'u cyfiawnhant ac a gynorthwyant yn eu gwein- yddiad. Pa mor fynych y cawsom brawf o hyn, pan mai rhai yn dyoddef mewn carcharau, ac yn myned dan lawer iawn o anfanteision blinion am beidio talu y Dreth Eglwys. Ceir miloedd yn analluog i gyfiawnhau ymddygiadau Ficeriaid ac Eglwys-geidwaid, ond yn unig "eibod yn gyfraith y tir." Ceid canoedd yn Mhrydain Fawr i feio y Madiaid, a Meis Cunningham, yn Tuscany, am roddi Biblau a Thraethodau i'r bobl; ac i gyfiawnhau y Dug am eu bwrw i garchar, yn unig am ei bod yn gyfraith y wlad hòno i beidio rhoddi y Bibl i'r bobl. Y mae o bwys annhraethol, gan hyny, i ddeall deddfau sydd yn dylanwadu mor rymus ar y meddwl cyhoedd, ac ymgeisio â'n holl egni at ci newid er gwell, a'u llwyr ddileu oddiar ddeddf-lyfr Prydain yn y pendraw, fel y gallo y bobl oll ffurfio eu golyg- 46