Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

\« Rhif. 229.] AWST, 1854. [Cyf. XX. YMNEILLDUAETH- Dechbeüàd A dadblygiad Ymneillduaeth.—Wrth ddechreuad Ymneilldu- aeth y golygir ci deohrcuad yn ci fFurf brcsenol, ynghyd á'r amgylchiadau a fu yn foddion i roddi iddi y cyfryw ífurf. Credir gan bob Ymneillduwr cydwybodol fod egwyddorion Ymncillduaeth mor hcn a'r Bibl, a'u bod yn sicr o gael eu dadblygu mewn rhyw ffurf gyfí'elyb i'r modd y maent yn mysg Ymneillduwyr yr oes hon, pa le bynagybyddo unrhywymgaisyn cael ei wneud i gaethiwo rhyddid crefyddol. Gan nad yw dechreuad yr holl bleidiau Ymneillduol yn dyddio yr un pryd, bydd yn angenrheidiol bwrw golwg dros ddygwyddiadau hánesyddol dechreuad pob plaid; a chan mai ffeithiau neu hanes sydd yn egluro effeithiolaf ddadblygiad unrhyw egwyddor ncu gyfundracth o egwyddorion, bydd yn angenrheidiol cyfeirio at y ffeithiau hyny a dybir eu bod yn taflu goleuni ar ddadblygiad Ymneillduaeth. Y mac y ffeithiau hyn yn aml yn gyfunrhyw ; tybiais, gan hyny, y byddai yn fwy manteisiol cymeryd dechreuad a dadblygiad Ymneillduaeth gyda'u gilydd, fel na byddai eisiau ail-gyfeirio at yr un pethau. Nis gall Ymneillduaeth yn briodol hanfodi ond lle y byddo crefydd wladol. Gall eglwys gynyddu mewn rhif, cyfoeth, o dylanwad, fel ag i hòni yr awdurdod i ddewis a barnu dros ereill mewn pethau crefyddol; ond ni fydd grym nac awdur- dod yn canlyn y cyfryw arddeiwad cableddus, oddieithr iddi gael rhyw allu gwladol i'w chefnogi. Heb hyn diystyrir ei hawdurdod, a gwneir ei honiadau yn. destyn chwerthiniad a gwawd. Pan ddarfu i ran o'r Eglwys Gristionogol, yn cael eiphleidio gan lywodraeth Rhufain, i hòni hawl i sefydlu crefydd yn ol ei meddwl ei hun, a dechreu gosod ei thraed lialogedig ar ryddid yr eglwysi, dechreuodd lluaws o ddynion da a chydwybodol wrthdystio ac anghydíì'urfio. Gwadent yn liwyr yr ymarddelwad, cadarnliaent fod gan bob dyn hawí i farnudrosto ei hun, ac mai i'w Arglwydd ei hun yn unig y mae dyn yn gyfrifol am ei grefydd. Mewn canlyniad i hyn, ymffurfiasant yn wahanol gynuíleidfaodd yma a thraw, fel y gall- ent addoli Duw yn ol argyhoeddiad eu cydwybod. Ar ol i'r eglwys gael yr aw- durdod, cynyddodd ei haerllugrwydd, aeth ei honiadau .yn fwy fwy caethiwus: erlidiodd, hyd at ysbeiliad a marwolaeth, bawb na fuasent yn cydymffurfio á'i deíodau hi. Adwacnid y dynion hyn mewn gwahanol wledydd ac mewn gwahanol ocsau wrth yr enwau Novatiaid, AÌbigensiaid, Lolîardiaid, &c. Yr oeddynt yn Ymncillduwyr trwyadl a gwirioneddol. Gwrthodcnt ymostwng i bob dynol ordein- had mewn crcfydd, a chymerasarit cu hysbeilio o'r hyn oedd ganddynt yn llawen er mwyn enw Crist. Nid yr Ymneillduwyr, gan hyny, sydd yn gyfrifol am fodol- aeth Sismau a rhaniadau eglwysig, ond y cyfryw agsydd yn llunio ac yn ar-osod cyfreithiau gorthrymus. Fcl y canlyn y dywed yr aníarwoÍJohn Lochc, " Byddai J'n dda i'r rhai sydd yn siarad cymaint am sectau ac ymraniadau, ystyried ai nid y rhaihyny ydyw Awdwyr a chêfnogwyr sectau ag sydd yn arosod crcdoau, sere- nioniau, ac crthyglau o waith dynion, ac yn gwneuthur pethau nad ydynt yn an- genrheidiol er iachawdwriaeth yn amodau derbyniad yr unrhyw. _ Y macnt yn c}"fyngu Cristionogacth o fewn tcrfynau o'u gwait'h cti hunain, y rhai nis gŵyr yr yn cael eu cyfrif yn mysg Ymneillduwyr. Y pleidiau mwyaf nodedig o Ymncill- uuwyr ydynt, Henaduriaethwyr, AnnibynAvyr, Bcdyddwyr, Crynwyr, Methodist-