Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

\<\ Y DIWYGÍWR. Rhif. 233.] ^RÂGFŸRT^säT" [Cyf. XX. YSBRYD CYHOEDD. GAN Y PARCH, REES PERKINS, MAENCLOCHOG. Mae yn wir nad ydynt y geiriau " Ysbryd Cyhoedd," yn ciriau ysgrythyrol; cto cyfeirir at y fath ysbryd yn aml yn y Bibl; a rboddir gorchymynion aml i'w ym- arferyd, ac anogaethau cedyrn i fyw o dan ei lywodraeth. "Nac edrychwch bob un ar yr eiddoch eichhun ; eithr pob un ar yr eiddo ereill hefyd." " Bydded cariad yn ddiragrith. Cashewch y drwg a glynwch wrth y da." Gyda golwg ar yr ysbryd gwcrthfawr hwn sylwaf ar y pethau canlynol:—■ Elfenau ysbryd CYhoì:oD.— Cariad.—Cariad at Dduw,— at y Cyfryngwr,— at ein brodyr a'n chwiorydd crefyddol,—ac at ddynolryw yn gyffredinol. Cariad yw gwreiddyn a bywyd ysbryd cyhoedd, ac y mae yn rhedeg trwy ei holl ganghenau. Mae gwir gariad Cristionogol yn cynwys îiyfrydwch y meddwl yn llwyddiant a ded- wyddwch ereill—hyfrydwch yn nedwyddwch a gogoniant Duw—yn anrhydedd a dyrchafiad y Cyfryngwrar ddeheu-law y mawredd yn y goruwcb-leoedd—yn llwydd- iant a lledaeniad achos crefydd ar y ddaear, ac yn achubiaeth, cysur, a dedwyddwch dynolryw. Mae yn ewyllysio'n dda i bawb bodau deallol, galluog o fwynhau ded- wyddwch. Mae y dyn sydd yn feddianol ar wir gariad, yn ymhyfrydu yn ned- wyddwch un bod, yn ymhyfrydu mwy yn nedwyddwch dau, mwy eilwaith yn ned- wyddwch deg, &c. Mae yr hyfrydwch hwn yn cyfateb i natur a graddau y ded- wyddwch a fwynheir. Mae yn ymhyfrydu mewn dedwyddwch pa le bynag y mae yn cael ei fwynhau, ac yn dymuno ei fodolaeth pa le bynag y mae yn alluog o gael ei fwynhau. Mae yn ymhyfrydu yn nedwyddwch dynion ; ond y mae yn ymhyfry- du mwy yn nedwyddwch Duw; yn gymaint a bod dedwyddwch Duw yn fwy, ac yn fwy ei bwys na dedwyddwch dynion. Yr un sereh sydd yn gweithredu tuag at Dduw, " Iesu Grist,"ein cyd-ddynion, yn gystal a thuag atom ein hunain. Mae y gwahaniaeth i gyd yn y gwrthrychau, ac nid yn y serch ei hunan. Ein cariad at Dduw, ac at Iesu Grist, yw ífynonell ein cariad atom ein hunain, a'n cyd-ddynion. Mae yr hwn sydd yn caru Duw à'i holl galon, yn caru ein Ilarglwydd Iesu Grist mewn purdeb, hefyd yn caru ei gymydog fel efe ei hun. Mae yr ysbryd hwn yn hollol groes i genfigen. "Nid yw cariad yn cenfigenu.'' Nid yw yn gofidio nac yn anfoddloni o hcrwydd llwyddiant a dedwyddwch ereill, nac yn llawenhau o her- wydd annedwyddwch neb. Mae cysur, llwyddiant, a dcdwyddwch ereill yn wledd wastadol i feddwl y dyn sydd yn feddianol ar ysbryd cyhoed'd. Mae yn ymhyfrydu yn nedwyddwch tymorol ei gyd-ddynion, ond yn benaf yn eu dedwycìdwch ysbryd- ol a thragwyddol. Mae yn llawenhau wrth weled y drygionus yn gadael ei ffordd, a'r gwr anwir ci feddyliau, ac yn dychwelyd at yr Arglwydd. Mae yn gor- foleddu wrth weled ei gyd-ddynion yn cynyddu mewn gwybodaeth ysgrythyrol, mewn teimladau duwiol, mewn santeiddrwydd cyffredinol, mewn llawenydd ysbryd- ol, ac mewn defnyddioldeb cymdcithasol. Hunan-ymivadiad.—" Nid yw yn ccisio yr eiddo ei hun ;" h, y., nid ei eiddo ei hun yn unig mae yn gcisio, eithr ciddo ereill hei'yd. Mae yn wir ci fod yn ceisio ei lesàd^'ei hun a'i deulu, yn gofalu am ei iechyd corfforol, ei amgylchiadau tymor- ol. ac iechydwriaeth dragwyddol ei enaid. Mae rheswm a chrefydd yn ei_ ddysgu i Avneud hyny; eto, nid yw yn ccisio ci lesàd ei hun yn unig, ac nidyw yn ceisio ei ksíid ci hun ar draul llesad a dedwyddwch ereill. " Heb geisio fy llesàd fy hun (ebe Paul,) ond llesàd llaweroedd, fel y byddont hwy gadwedig." Ei lesâd ei hun y mae y dyn huanol yn geisio bob amser. Nid gwaeth ganddo beth fyddo neb ond 45