Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWE. Rhif. 250.] MAI, 1856. [Cyf. XXI. FFYDDLONDEB CREFYDDOL A'I W0BRAlT. GAN Y PARCH- M. REES, GROESWEN. " Bydd Cyddlun hyd angau, a mi a roddaf i ti goron y bywyd." Darllenwn am ffyddhndeb Duw: Deut. 7, 9; Esay 42, 7; 1 Cor. I, 9,10, 19; 2 Cor. 1,18; 2 Thes 3, 3 ; 2 Tim. 2, 13. A ffyddlondeb ei dystiolaethau : Salm 119, 113. Darllenwn hefyd am archollion ffyddlon : Diar. 27, *6. Cyngór ffydd- lon : Diar. 27, 9, Dinas ffyddlon : Esay 1. 26. Deonyliad ffyddlon ; Dan. 2, 45. Gair ffyddlon : 1 Tim. 1, 15, &c. ünd ein testyn presenol yw dyn ffyddlon. Ffyddlondeb (llawn ffydd) yw parodrwydd, hyfrydwch, a pharhad i wneud yr hyn a allo dyn gydag unrhyw beth. Mae ffyddlondeb yn deilliaw o'r gÚTffydd/>on, ac y mae y gair hwn yn golygu dyn teilwng o'i ffydd, ufudd, uniawn, dianwadal, hyderus, diysgog, &c Nis gellir edrych ar ddyn yn ffyddlon os na bydd yn gwneud yr hyn a allo yn ddiwyd, dyfal, a pharhaus. A ffyddlon yw yr hwn a gyflawno ei air ya ol ei addewid ; ac os metha, ni fetha heb ei fod yn gwneud ei orau, a bydd yn ofid- us iawn os na ddaw i fyny â llythyren ei addewid : " Yr hwn a dwng i'w niwed ei hun, ac ni newidia," Salm 15, 4. Hyn, a dim yn llai, yw ffyddlondeb crefyddol. Mae ffyddloniaid yn un o enwau gorau y saint, Gal. 3, 9; Eph. 1, 1 ; 1 Tim. 4, 3, 10,12; Dat. 17, 14. Nid oes neb mewn ystyr fanwl a phriodol yn ffyddlon ond dyn duwiol, neu un yn credu, megys y dengys ystyr y gair Groeg pistos sef ffyddlon, "Felly y rhai sydd yn credu (neu'n flyddlon) a fendithir gydagAbraham ffyddlon," neu oedd yn credu, Gal. 3, 9. Gwelir hefyd yr un peth yn 1 Tim. 5, 16. Diau, gan hyny, mae'r ffyddloniaid yn Nghrist yw'r credinioyr yn Nghrist. Priodolir ffyddlondeb i bersonau oherwydd eu cywirdeb a'u honestrwydd yn yr hyn a ym- ddiriedid iddynt, m°gys Moses, Silranus, ac Onesimus, Num. 12,7; Heb. 3, 5; Col. 4, 9; 1 Pedr 5, 12. Ac nid oes neb yn deilwng o unrhyw ymddiried os na bydd yn ffyddlon, Luc 12,42 ; 1 Cor. 4, 2. Yr ydys yn dysgwyl fod.pob goruch- wyliwr yn ffyddlon. Cofiwn pan uwchaf aphwysicaf fyddo'r ymddiriedaeth aberth- yn i ni, maimwyaf oll ddylai fod ein ffyddlondeb, a mwyaf i gyd fydd y bai os yn anffyddlon. Mae ffyridlondeb ein testyn yn golygu ymdrechion dros achos Crist yn y byd, ac ymlyniad diball wrtho serch marw drosto pe byddai raid. Ni a enwn rŵ pethau fel Rhayjlaenyddion a chydredegwyr ffyddlondeb crefyddol.—Diau fod llawer o bethau yn rhagredegwyr a chydredegwyr i wir flÿddlondeb gyda chrefydd. Enwn rai o honynt, a'r goreuon os gallwn, megys Cymeryd crefydd ac achos Mab Duw yn orchwyl bywyd.—Nis gall neb fod yn ffyddlon heb hyn. Os y peth penaf yw crefydd (hyn sydd sicr), dylai fod yn beth penaf pob dyn : " Penaf peth yw doethineb;" ond yn neillduol ei phroffeswyr. Nat- uriol a phriodol yw dywedyd, mai gyda y peth mwyaf a phenaf yn nghyfrif dyn yr ymegnia fwyaf, a sicr yw mai i'r peth yr ymegnia dyn fwyaf o'i du, y bydd dyn fwy- af ffyddlon. Paham y dangosa canoedd o ddynion gymaint o ffyddlondeb gyda phethau y byd hwn f Onid am mai y byd yw y peth uwchaf yn eu golwg ? " Lle y mae eich trysor, yno y mae eich calon hefyd." Rhaid gwneud crefydd yn brif orchwyl ein bywyd, cyn gellir mesur modfedd o ffyddlondeb ynom, ac heb fod hýn yn barhaus yn y golwg, gwywo a darfod wna ffyddlondeb. I'r graddau y bydd ein cariad at, a'n parch i unrhyw beth y bydd ein gofal am dano, a'n ffyddlondeb iddo. Y mae Uawer un wedi rhedeg yn dda gyda chrefydd%m ychydig, ond wedi cymeryd eu rhwystro, gan ofalon bydol, yn mhell cyn cyrhaedd pen eu taith. Aeth y byd 18