Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Rhif. 259.] CHWEFROR, 1857. [Cyf. XXII. AMLYGRWYDD EGLWYS CRIST. GAN Y PARCH- B. WILLIAMS, DOWLAIS- Y MAE Iesu Grist yn ei hyfforddiadau neillduol i'w ddysgyblion wedi rhoddi darluniad eglur ac anffaeledig o natur, cymeriad, a dylanwad ei eglwysar y ddaear. Defnyddiodd amrywiol gyfleusderau arbenig er desgrifio yn fanol ei sylfaen a'i hadeiladaeth—ei gwaith a'i rhagorfreintiau—ei pheryglon a'i diogelwch—ei gelyn- ion a'i hymosodiadau—ei hadfyd a'i blinderau, ynghyd á'i sierwydd diymwad am daledigaeth y gwobrwj\ Defnyddiedd amryw ymadroddion hynod darawiadol i ddangos cysylltiad ei eghyys â'r byd llygredig ac annuwiol. " Chwi yw halen y ddaear.'' l)engys Crist yn yr ymadrodd hyn, mai trwy oíferynoldeb y dysgyblion yn yr oes hùno, a'r eglwys mewn oesau dilyno!, y mae'r anwybodus am gyflwr a thynged ei enaid i gael ei oleuo—y galon halogedig ac aflan i'w gwneud yn galon santaidd, a'r cymeriad isel a dirmygedig yn deilwng a chymeradwy. " Chwi yw goleuni y byd"—dyma gymhariaeth arall yn cadarnhau yr un gwirionedd. Y byd yn dywyllwch, a'r eglwys yn oîeuni i wasgar y tywyllwch. " Dinas a osodir ar íryn ni eilir ei chuddio." Os am guddio dinas dylid ei hadeiladu mewn pant-le isel; ond wrth adeiladu "dinas ar fryn''bwriedir iddi fod yn amlwg. Bwriadai Crist i'w eglwys fodyn amlwg, ac nadoedd dim i'w chuddio. Amlygrwydd eglwys Crist sydd ffaith ysgrythyrol. Mae bodolaeth y ffaeth hon yn anhebgorol er gwa- haniaethu eglwys Crist oddiwrth deyrnas y gelyn. Dyma un o elfenau cryfaf ei llwyddiant. Dyma'r arwydd amlycaf wrth ba un y dylid ei hadnabod yn mhob oes ; a'r fynyd y cyll eglwys Crist ei hamlygrwydd, derfydd ei bodolaeth, dygir ymaith ei dylanwad gyda phedwar gwynt y nefoedd, a chleddir ei choffadwriaeth yn nhiriogaeth annghofrwydd. ünd y mae eglwys Crist wedi cadw ei hamlyg- rwydd trwy wahanol anhawsderau, a'i harwydd-air yn mhob oes ac amgylchiad yw, " Myfi wyf ddinas ar fryn, nis gellir fy nghuddio." Ithag cael ein temtio i fyned o amgylch y pwnc, yn lie at ein pwnc, ni nodwn rai o elfenau cyfansoddol amlyg- rwydd eglwys Crist. Arddeliad ac amddiffyniad Dioyfol—Dyma'r elfen flaenaf, egluraf, a phwysicaf yn amlygrwydd yr eglwys yw fod Duw y nefoedd yn arddel, ac yn amddiffyn yr eg- lwys fel ei eiddo arbenig. Gŵyr pawb o ddarilenwyr y Bibl mai Crist yw Pen yr eglwys—Noddwr yr eglwys—Athraw yr eglwys—Arweinydd yr eglwys— Ceryddwr yr eglwjs, a Gwobrwywr yr eglwys. Crist yw yr awdurdod uwchaf yn yr eglwj-s—efe sydd yn rhoddi cyfreithiau i'r eglwys i weithredu wrthynt—-ei awdurdod ef sydd i benderfynu pob dadl gysylltiedig â chrefydd, a'i ymadroddioti ef sydd i benderfynu drwg neu dda, pob barn a gweithrediad. Crist yw Amddi- ffynwr yr eglwys rhag ystormydd a gelynion allanol. Ni welodd yr eglwys eto un díwrnod cyfan heb dderbyn ymosodiadau oddiwrth y cryf-arfog a'i filwyr. Mae tymorau hirfaith o'i hoes wedi eu hynodi gan vfrwydrau gwaedlyd o bob tu. Taenoddllawer brenin ac ymherawdwr ei aden dyllog drosti; ond truenus fuasai ei chyflwr heddyw oni bae nawddaeth ac ymgeledd Crist. Crist yw dysgawdwr yr eglwys. Anwybodaeth am egwyddorion ac ysbrydolrwydd crefydd yw un o ffael- eddau am fysgoedd drws yr e^ fod ganddi_____ x , .. . ,...,.. mae gobaith y gwna'r eglwys gynyddu mewn gwybodaeth a thangnefedd. Crist yẁ