Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWE. Rhif. 274.] MEHEFIN, 1858. LCyf. XXII. Rhwymedigaeth Rhicni i Fcdyddio cu Plant, a Dyledswydd yr Eglwys tuag at y Gencdl Ieuainc. A âdarìlenwyd gan y Parch. E. JONES, Crug'îbab, yn Nghynadledd Cyfarfod Chwarterol Bir Gaerfyrddin, a gynaliwyd yn Tabor. Sefydlodd Iesu Grist y Bedydd Cristionogol, pan wedi adgyfodi oddiwrth y meirw, a derbyu pob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear. Rhoddodd y com?nissiwn i'r dysgyblion yn y cyfarfod apwyntiedig hwnw ar y mynydd, yn Galilea, lle yr ordeiniasai yr Iesu iddynt gyfarfod ag ef; a'r fan hefyd y tybir iddo gael ei weled gan fwy na phum can brodyr ar unwaith, cyn iddo esgyn i'w ogoniant. Nid fy amcan, yn y sylwadau canlynol, yw aflonyddu dim ar gredó na phroffes gwrth-fedyddwyr babanod ; gadawaf rhwng y gwirionedd a hwynt; ond yn hytrach dangos i ddosbarth o bobl, a addefant fod bedydd dwfr o Ddwyfol osodiad, a bod plant yn ddeiliaid cymhwys o'r ordinhad; eu bod hwy yn feius iawn pan maent yn ddiofal ac esgeulus o ddwyn eu plant i'w cyflwyno yn brydlon i'r Arglwydd. Mae yn ffaith ofidus, fod yn ein cyn- ulleidfaoedd, wrandawyr, a rhyw fath o aelodau hefyd, ag sy'n ymddangos yn dra difater, pa un a ddygant eu plant i'wbedyddio ai peidio : yraddengys fod y diofalwch a'r llibyndod hyn yn tarddu oddiwrth eu hanystyriaeth o natur a dybenion bedydd. Ffurfiasant gynt y drychfeddwl, fod bedydd yn rhywbeth er rhoi enw ar y plentyn, ac er ei gofrestru, fel y caffai briodi, cael gwasanaeth offeiriad uwchben ei fedd pan fyddai farw, neu gael rhyw feddianau bydol oddiwrth J0r berthynasau, yn ei fywyd, os byddai mor ffodus ag iddynt ddyfod i'ẃ^ran* ) Ond wedi i"r Senedd basio deddf y cof- restriad cyffredinol, mae yn debyg y barnant fod hòno yn ateb dybenion tedydd; a gofalant gofrestrueu plant yn brydîon, mewn ufydd-dod i'r ddeddf hòno, ond esgeulusant eu bedyddio mewn ufydd-dod i ddeddf y nef; neu o'r hyn leiaf, dangosant nas gwaeth ganddynt faint ohiriont cyn cyflawni y ddyledswydd bwysig hon. Er y barnwn fod deddf y cofrestriad yn fantais werthfawr i'r wlad, eto carem argraffu ar feddyliau pawb, nad all unrhyw osodiad dynol byth ein rhyddhau oddiwrth rwymedigaeth ordinhad Ddwyfol; abod cyflwyno eu plant, trwy fedydd i'r Arglwydd, yn ddyledswydd mor or- phwysedig ar rieni yn awr ag y bu erioed, neu y bydd byth. Ymddengys hyn, t h Oddiwrth y dull caredig a chariadla^rn'y sieryd yr Arglwydd am blant, a,r sylw neillduol sydd ganddo arnynt dan bob goruchwylìaeth; hòna hawl 1(%nt fel ei eiddo ei hun. " Wele plarfE, ydynt etífgâdiaeth yr Arglwydd» ei wobr ef yw ffrwyth y groth," Salm cxxr^-a4' Dywed wrth yr Eglŵys juddewig, "Tywalltaf fy Ysbryd ar dy hâí, a'm bendith ar dy hiliogaeth. mmau, dyma fy nghyfamod â hẁynt, medd yr Arglwydd; Fy Ỳsbryd, yr hwn syâd arnat, a'm géiriau, y rhai a osodais yn dy enau^ni chüiant 22