Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y MWYGIWE. Rhif.288.] MEDI, 1859. [Cyf. XXIII Y Pwys o Ddccìircu Âddoliad yn Brydlawn, ac i bawb fod yno incwn pryd. ITeslijn Eisteddfùd Sardis, Fslradgynlais, Ebrill ofed, 1858.] Nid oes dim yn amlycach na wnai y rheswm sydd gan ddyn a'r goleunì rydd natur ar fodolaeth ci Wneuthurwr, ei arwain i osod i fyny íTurf o addol- iad iddo. Tra yr oedd dyn yn ei'sefyllfa o ddiniweidrwydd, yr oedd ei reswm heh ei lygru—eí farn heh ei gwyro—ei gydwyhod heb ei halogi, ac heb un siampl o'i flaen ond eiddo ei Greawdwr. Yr oedd ei addoliad y pryd hwu yn santaidd a pherffaith. Yr oedd y cyfnod yma ar y teulu dynol y ded- wyddaf afu yn hanes yr hiliogaeth. Yr oedd ein rhieni cyntaf ŵedieu creu ar ddelw Duw, ac yn bywmewn perffaith ufudd-dod i Dduw. A pha fath bynag oedd dull a ffurf eu haddoliad y pryd hwnw, gellir sicrhau ei fod yn cael ei nodweddu gan burdeb, gweddeidd-dra, a threfn. Ond wedi i ddyn bechu daeth yn wrthrych euogrwydd, ac yn ddeiiiad cosb : aeth dan ddy- lanwad ysbryd cyfeiliorni; eto ni chollodd ei fodolaeth na'i reswm. Ar- bedwyd ef ar dir cyfamod newydd, daeth ei achos yn obeithiol—estynodd Buw addewid iddo trwy gyfryngdod y Mesia. Cafodd yn yr addewid ddad* guddiad o fwriad Duw gyda golwg ar ei sefyllfa yn ddyfodol. Gosodwyd ef mewn trefn newydd, yr hon a gynwysai foddion gras a ffurf o wasanaeth crefyddol, neu gynllun o addoliad Dwyfol. Yr enw cyntaf roddir arno yn y Bibi yw " Galw ar enw yr Arglwydd,'' Gen. 4, 26. Dechreuwyd galw ar enw yr Arglwydd yn nheulu Seth. Dyma ydyw enaid a chnewllyn addoliad yn mhob oes. Mae llawer dullwedd a ffurf wedi bod ac yn bod ar ddwyn yn mlaen addoliad o ddechreu y byd hyd yma. Ond y ffordd ddyogelaf yw cadw yn gaeth at ysbryd a llythyrau yr Ysgrythyr, yn neillduoi siampl Crist a'i apostolion. Sonia'r Bibl am addoliad personol, teuluaidd, ac eg- lwysig, neu gynulleidfaol. Ond â'r olaí yn unig mae a wnelom yn ol y testyn sydd ger èin bron. " A chan mai l< y pwys o ddechreu addoliad yn brydlawn, ac i bawb fod yno mewn pryd" yw ein testyn, cawn ddisgyn bell- acharno. Mae yn ymranu i ddwy ran : — Ypwys o ddechreu yr addoliad yn brydlawn. Ypwys i bawb i fod yno mewn pryd. Y pwys o ddechreu addoliad yn brydlawn.— Dechreu yn brydlawn ýw dechreu yn yr awr ac ar y fynyd y cyhoeddwyd. Mae o bwys dechreu yn yr amser y cyhoeddwyd er cyflawnu a gwirio geiriau y cyhoeddwf. Òs na ddechreuir yn yr amser danodir i'r cyhoeddwí ^1 fod wedi dweyd anwiredd. I ochel y ddanodiaeth, neu er hunan-amddi* "yniad, gwna y cyhoeddwr newid ei ddull fcl y canlyn :—Bydd Mr. J., }'» pfegethu yma borau y Saboth nesaf yn y pryd arferol, ac yn yf