Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Hti.F. îjüI.] HYDREF, ltS60. LCvf. XXV. DUWDOD CRIST- Addefir yn gyffredinol fod Iesu Grist wedi ei eni yn Bethlehem, a'i fagu yn Nazareth, oddeutu yr amser a nodir gan yr Efengylwyr. Mae ynrhaid addef y ffaith hon, neu fyntumio y gwrthuni, i Mathew, Mare, Luc, a Ioan, o honynt eu hunain, ddarlunio nodwedd dyn perffaith yn y modd cyflawnaf, a chywiraf, a pherffeithaf. Fe ellir credu fod y fath un a Iesu o Nazareth wedi by w yn Paltstina yn yr amser a briodolir iddo ; oblegid fe gredir hyny gan filiynau nior gadarn ag y credant fod eu rhieni trengedig wedi bod unwaith ar y ddaiar. Ond annichonadwy ydyw i ddyn call, ystyriol, gredu i bedwardya cyfíredin, annysgedig, dirodres, a syral, ar wahan oddiwrth y naill y tla.ll, ddychymygu darlun nvor nywir, mor fawreddog, ac mor holloi berffaith o un na welsant o hono erioed â'u llygaid, ac na chlywaant o hono erioed â'u clustiau, ac na bu air o son am ei fath yn y byd erioed o'r blaen ; ac iddynt lwyddo i ddwyn allan y fath ddyfais o'u hymenyddiau mewn iaith inor gadarn, mor syml, ae mor dlôs ag a geir yn yr Efengylau. Yn liytrach na chaniatau y fath athrylith anghyniharol i'r Efengylwyr, dewisa amheuwyr ac anffyddwyr, o bob gradd, addef y ffaith bwysig a o»odasant mor gryno a grymus gerbron y byd ; sef, fod Iesu wedi ei eni yu Methle- hem Judea, yn nyddiau Herod frenin ; ond er yr addefant hyn,, y mae barn- au gau, ac amry w wedi eu coleddu am dano o oes i oes. Yr Iuddewon cyf- oesog ag efafethasanteiadnabod—gwadasant y Sant a'r Cyfiawn—cyfrifent kf yn ddyn drwg, yu hòni hawliau ua pherthynent iddo, a galluoedd nad ueddent yn budoli. Croeshoeliasant Effel twýllwr cableddus—ae y mae llèn yn aros ar lygaid eu plant hyd heddy w. Nid cynt y trodd ei gefn ar y dilniar, nag y decWreuodd athronwyr fesur ei berson, a beirniadu ei waith. V Gnostiaid, yn eu hamrywiol sectau, oeddent gyfeiliornus i raddaumwy neu lai, yn eugolygiadau am dano. Y Docetaeaid awadent ei briodol ddyndod, ae haerent nad oedd ei gorff ond ymddangosiad nwyawl, cyffelyb i fater, ac lieb fod felly, a'i ddyoduefaint yu rhithiol, ac nid yn drwyadl. Y Cerinth- iaid a wadent ei Dduwdod, ond taerent ei fod yn fwy na dyn, yn anfonedig ^an y Tad, ac yn cyfranogi i ry w radd o'r uatur Ddŵyfol, ond nad oedd ya briodol Dduw. Noetus a hònai i Dduw ( a alwai Efe yn Dad), i yrauno ä'r dyn Crist Iesu. Sabellius, yn y trydydd canrif, a ddaliai taw rhyw ran neillduol o'r natur Ddwyfoí a unodd à'r dyn Crist Iesu, ac nad oedd yr Ys- ^ryd Glân ddim ond yni neu nerthineb. Arius, yu y pedwerydd canrif, a ^adai Ddwyfoldeb person Crist, ac nad oedd gydraddol â'r Tad, ond ei fod. v cyntaf-anedig, neu yr ardderchogaf o greaduriaid Duw, ac y mae trwyddo "f. fel oíferyn, y gwnaethpwyd pob peth—bodyr enw Duw yn cael ei roddi ^do, ac mai y sylwedd hwnw a genedlwyd gan y Tad, a elwid logos (gair), oedd yn lle enaid rhesyuiol yn ei gorff. Y ddau Socinus, Laelius a Faustus, J n yr unfed canrif ar byintheg, wrth ddianc o grafangau Pabyddiaeth goel- ëar, yr hon a gredai bob peth, a rhuthrasant i eithafoedd arall i beidio credu 37