Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWffc. Rhif. öOiJ RHAGFYR, 1660. [Cyf. XXV. TROSOSODIAD. " Ac efe a lu farw dros bawb."—Paux. Trososodiad, betli ydyw ? Anhawdd egluro geiriau Paul, oblegid y maent eisioes mor olau a'r haul. Nid oes modd lai na gweled i Iesu Grist farw dros bawb, fel y gallasai pawb fyw yn dragwyddol. Y mae llawer o enghreiíftiau o Drososodiad mewn hen hanesion—bywyd yn lle bywyd: " Y mae o lawer yn well ac yn gyfiawnach (medd yr yniherawdwr Otho, pan oedd oddeutu gwanu ei hun i arbed ei fyddin) i un farw dros bawb, nag i chwi oll farw dros un i'w gadw yn fyw." Cafodd Damon ei gon- demnio i farw gan Dionysius, o Syraeuse; ond dymunodd gael myned i drefnu ei achosion teuluaidd cyn ei ddienyddiad; ac ar yr amod i Pythias farw yn ei le os na ddychwelai erbyn yr awr, cenadwyd iddo fyned. Daeth y dydd, a daeth yr awr; ac ar yr awr yr oedd Pythias yn cynyg ei hun i gael ei ddienyddio, a pharotuadau prysur yn cael eu gwneud i weinyddu y gosb ; ond daeth Damon yn llawn chwys a lludded, wedi ei iuddias gan ystorom i ddod yn gynt, a rhuthrodd i le Pythias, ac a gym- erodd y cortyn oddiam ei wddf, gan ei gosod am ei eiddo ei hun: yr hyn, pan welodd Dionysius, a'u harbedodd hwynt eill dau, gan }Tstyried fod ei gyfraith wedi cael llawn anrhydedd. Aml iawn y cyfeirir yn yr Ysgry- thyrau at Drososodiad: Ioan 11, 30, " Nid ydych chwi yn gwybod dim oll (ebe Caiaphas), nac yn ystyried mai buddiol yw i ni farw o un dros y bobl, ac na ddifether yr holl genedl." Ofhai ef os cawsai Crist fyw, y buasai i'r Rhufeiniaid ladd yr holl bobl. Y mae Iesu Grist ei hun yn cy- feirio yn aml at ei farwolaeth ddirprwyol: Mat. 20, 28, "Ac i roddi ei einioes yn bridwerth dros lawer;" Ioan 10, 11, "Ybugail da sydd yn rhoddi ei einioes dros y defaid;" 15, 13, " Cariad mwy na hwn nid oes gan neb, sef, bod i un roddi ei einioes dros ei gyfeillion." Ond nid llawer sydd i'w ddysgu oddiwrth ei eiriau ef am natur mwy cyhoeddus ei Iawn, fel dyfais ddoeth ac eífeithiol i wrth-weithio dylanwad cyhoeddus pechod yn y llywodraeth fawr. Ond y mae Paul yn ei ddàl allan fel trefniant grasol i ddàl i fyny gyfiawnder cyhoedd yr orsedd, pan fyddai trugaredd yn llifo allan o honi: "Oblegid pawrb a bechasant. A hwy wedi eu cyfìawnhau ya rhad trwy ei ras ef, trwy y prynedigaeth sydd yn Nghrist Iesu. Yr hwn a osododd Duw yn Iawn trwy ffydd yn ei waed ef, i ddangos ei.gyfiawnder ef, trwy faddeuant y pechodau a wnaethid o'r blaen, trwy ddyoddefgarwch Duw. I ddangos ei gyfiawnder ef y pryd hwn; fel y byddai ef yn gyfiawn, ac yn cyfiawuhauy neb sydd ofiydd Iesu/' Rhuf. 3,23—26. Dynabeth ywlawn £eu Droso8odiad; Iesu örist yn dyoddef dros bechaduriaid, a Duw yn der? byn y dyoddefiadau fel Iawn cyhoeddus, fuasai yn dylanwadu ar y bydysawd yu fwy grymus, na phe buasai y troseddwyr ei hunain yn marw—Crist yn llo yr euog, a'i ddyoddefìadau yn lle eu dyoddefiadau hwy. Yr oedd Darius J11 ÄìFyddus iawn i aohub Daniel rhag ei fwrw i'r ffau, a bu yn ymroddi 45