Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWB. Ehif. 308.] MAI, 1861. [CyF. XXVI. MOSES. GAN Y PARCH. T. DAVIES, LLANDEILO. Ehenib, bywyd Moses i dri chyfnod, ac y mae pob cyfnod yn cynwys deu- gain mlynedd. Y mae'r cyntaf yn ymestyn o'i enedigaeth hyd ei ffoad o'r Aifft; yr ail, o'i ffoad o'r Aifft hyd oni orchymynwyd iddo fyned i waredu ei frodyr o dan law eu gorthrymwyr annhrugarog; a'r trydydd, o'r amser y derbyniodd y cyfryw orchymyn hyd ei farwolaeth ar ben Pisgah. Yn mhlith holl genedloedd y byd, nid oes un genedl mor hynod â chen- edl Israel: y mae iddi nodweddion na pherthynant i neb araÜ; a'r hyn a ddyry yr hynodrwydd penaf arni ydyw, ei pherthynas â Duw ac â'i enw. Mae ei hanes yn ìlawn dyddordeb ac addysg i chwiliwr yr Ysgrythyrau. Mae yr holl Feibl yn mron yn blethedig â hanes had Abraham. Pan yn darllen hanes dadblygiad goruchwyliaeth gras Duw tuag at fyd colledig, yr ydym yn gweled fod y Lly wydd mawr wedi gweled yn dda i gynal ei enw a'i achos yn y byd drwy amryw ddulliau neu ffurfiau, ac fod y ffurfiau hyny yn bwrpasol i gyfarfod â gwahanol amgylchiadau, ond oll yn gwasanaethu i'r un dyben gogoneddus. Yr oedd y naill oruchwyliaeth yn tyfu allan o'r llall. Y gyntaf oedd y batriarchaidd: parhaodd hon am yspaid dwy fil o flynyddoedd. Yr ail oedd yr un Lefiaidd : parhaodd hon ^a phymtheg cant o fìynyddoedd. Yr olaf yw yr un G-ristionogol, neu yr oruchwyliaeth bresenol, ac y mae hon i barhau hyd ddiwedd amser. Ffurf deuluaidd oedd ar grefydd o dan yr oruchwyliaeth gyntaf—yr oedd yn cartrefu yn hollol mewn teuluoedd—yr oedd ei holl hyfforddiaint yn cael eu traddodi drwy addysgiad teuluaidd, a hyny mewn ymadroddyn ^pig, ac nid drwy lyfr. Gellir dywedyd fod hanes y grefydd batriarch- aidd yn diweddu gyda mynediad plant Israel i'r Aifft; canys y mae yr üyn a ddygwyddodd iddynt yn y wlad hono yn perthyn yn hjirach i oruchwyliaeth Moses. 0 roddiad yr addewid i Abraham hyd waredigaeth Israel o'r Aifft, yr oedd pedwar can mlynedd a mwy. Yn yr yspaid hwn o amser, aeth Abraham, Isaac, a Jacob at eu tadau. Dygwyd Israel i'r wlad hon drwy oruchwyliaeth hynod, a gofalodd yr Arglwydd eu cadw ar wahan oddiwrth bobl y wlad. Yr oedd cyfreithiau yr Aifft yn gwarafun pob cyfathrach à dyeithriaid; Jp yr oedd bugeiliaid defaid yn anad neb yn fíiaidd gan yr Aifftiaid: ' Oanys fireidd-dra yr Aifffciaid yw pob bugaildefaid." Yrheswm am hyn, ^iedd rhai, yw, am fod yr Israeliaid yn offrymu ac yn bwyta yr hyn a addolid gan yr Aifftiaid. Wele blant Israel yn awr, nid yn unig mewn Jplad bellenig a dyeithr, ond yn cael eu gorthrymu yn dost Pa bryd y dechreuodd y oyfnewidiad gofidus hwn, a pha fodd, ni ddywedir dim yn 17