Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Ehif. 310.] GOEPHENHAF, 1861. [Cyf. XXVI. DEDWYDDWCU TEULUAIDD. GAN Y PAECH. DAVID HENRY, (Mtbddin Wtllt,) PENYGROES. Mae y testyn hwn yn ein harwain ar unwaith i un o'r cylchoedd mwyaf cysegredig, dyddorol, a phwysig, sydd ar y ddaear, sef y cylch teuluaidd. Gall teulu gynwys nifer o bersonau uwchlaw dau; ond nis gall llai nâ dau o nifer gyfansoddi teulu. Teulu, ynte, yw unrhyw nifer o bersonau yn cyd-aneddu, ac yn dal perthynas naturiol, neu gyfreithiol, neu gyfamodol, â'u gilydd. Y mae mewn teulu lywodraethwr a llywodraethedig, a chyleh pwysig gan bob un i droi ynddo ; ac y mae dylanwad mawr gan y naill gylch ar y llall o fewn y teulu. Y mae mewn teulu bethau yn gyffredin, megys gwaith, cynaliaeth, ymgeledd, a chysur, ac y mae hawl gan y naill aelod fel y llall i gyfranogi o honynt. Y gymdeithas deuluaidd yw y gym- deithas henaf a phwysicaf sydd ar y ddaear, ae ymddengys fod hon wedi ei bwriadu gan Lywydd nef a llawr i fod yn fangre dedwyddwch. Dedwyddwch teuluaidd yw y teimlad hyfryd, tawel, asiriol, aleinw fyn- wesau y gwahanol aelodau yn y cyflawniad o'u dyledswyddau, ac yn y cyf- Tanogiad o'u breintiau yn eu gwahanol gylchoedd, wrth ddwyn yn mlaen îes cyífredin y teulu. Y mae y dedwyddwch hwn yn cael ei genedlu, ei feithrin, a'i fwynhau, o fewn y cylch teuluaidd ; ac y mae pob aelod i gyd- gyfranu tuag ato, ac i gydgyfranogi o hono, o herwydd heb hyny nis gellir yn briodol ei ystyried yn ddedwyddwch teuluaidd. Ni olygir fod y dedwydd- wch hwn yn berffaith heb gymysgedd o alar, a thrallod, a gortìirymderau, o'r fath ag y mae y bodau a'r cjondeithasau goreu yn agored iddynt yn y byd di*wg, Uygredig, a chyfiiewidiol hwn; ond golygir ei fod yn un gwir- ioneddol a sylweddol: y fath nas gall cyfnewidiadau, a thrallodau, a Minderau y fuchedd bresenol ddim o'i gymeryd.ymaith, nac atal y mwyn- üad o hono. Hanfodion dedwyddwch teuluaidl ydynt y pethau hyny nas gall dedwyddwch fodoli o gwbl hebddynt; hanfodion bywyd ydyntyr ^lfenau hyny a raid gael er bodolaeth a chynaliaeth bywyd; hanfodion lechyd ydynt y pethau a raid gael i gadw a dyogelu iechyd; felly, hanfod- ìou dedwyddwch teuluaidd ydynt jx elfenau anhebgorol hyny a raid gael er ei gyfansoddi, ei feithrin, a'i ddyogelu. Yn awr, yr ymgais presenol ÌJ chwilio am yr elfenau a raid gael er cyfansoddi y dedwyddwch teulu- aidd hwn, a'r rhai a ellir yn briodol eu galw yn HANFODION DEDWYDDWCH TETJLTJAIDD. . "î mae aelodau pob teulu yn fodau cyfansawdd o ddwy ran, sef corff ac eûaid. Y mae y èorff yn ddaearol, a'r enaid yn ysbrydol; cnawd yw y eoi>ff, ac ysbryd yw yr enaid. Y mae yn rhaid i hanfodion dedwyddwch teẀaidd gynwys eífenau cyfaddas i anianawd y corff a'r enaid. Yn gyf- 25