Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Ehif. 317.] CHWEFEOE, 1862. [Cyf. XXVII. DYEITHRWCH Y SAINT I'W GILYDD. GAN Y PARCH. J. EYANS, CAPEL SEION. Yk oedd rhai dynion da yn eglwys Ehufain yn amser yr apostol Paul, yn barod i farnu fod rhif y cadwedigion yn llai nag oeddynt; a sj'rthiodd Elias dduwiol i'r camsynied yma yn amser Ahab a Jezebel; ac y mae genym bob lle i gasglu fod llawer o ddynion da yn y byd eto nad ydynt yn gweled eu gilydd. Amcanwn ddangos paham y mae cynifer o ddynion da yn y byd yn methu gweled eu gilydd. Nid ydynt yn gweled eu gilydd am fod eu barn yn wahanol. Mae llawer o ddynion da yn gwahaniaethu yn eu barn am athrawiaethau crefydd ac or- dinhadau yr efengyl, megys etholedigaeth, yr iawn, gwaith yr Ysbryd Glan, gras yn ei natur, bedydd, &c. Mae rhai dynion yn barnu am ethol- edigaeth, mai etholedigaeth i swyddau ac i freintiau cenedlaethol, fel y cafodd had Abraham eu hethol i freintiau yr hen oruchwyliaeth, yw ethol- edigaeth y Beibl. Mae ereill yn barnu mai etholedigaeth bersonol, diam- odol, a thragywyddol yw. Mae rhai dynion da yn barnu am yr iawn, mai terfynol, masnachol, a chyfyngedig dros yr ethoîedigion yw; pan y mae ereill yn barnu fod yr iawn yn gyfíredinol—dros bawb—dros yr holl fyd; neu yn hytrach ei fod yn gyfrwng addas i Dduw o'i benarglwyddiaeth i gyfranu bendithion i fyd o droseddwyr, heb wneud cam a'i gymeriad fel Llywydd ; sef mai darpariaeth rasol y nef ar gyfer achub yw yr iawn, ac y buasai eisieu cymaint o iawn i achub un pechadur ag i achub myrdd- iynau. Nid yw pawb o ddynion da y byd o'r un farn am waith yr Ysbryd Glan yn ei natur. Barna rhai mai anianyddol yw yn ei natur, 6ef fod anian neu egwyddor yn cael ei phlanu yn nghalon y pechadur yn ddigyf- rwng tu cefn i foddion; barna ereill mai moesol yw gwaith yr Ysbryd Glan yn ei natur, sef fod tuedd santaidd yn cael ei chenedlu a'i meithrin yn yr enaid, trwy fod yr Ysbryd Glan yn bendithio moddion gras. Nid yw pawb o'r un farn am ras yn ei natur. Myn rhai dynion da naai tuedd yw, ac ei fod yn bosibl ei golli yn hollol trwy esgeuluso moddion, cellwair a phechod, ac anghofìo gwylio ; barna ereill mai egwyddor yw gras yn ei natur, ac fod yn anmhosibl ei golli yn hollol wedi ei gael unwaith. Mae dynion da yn amrywio yn eu barnau am fedydd. Barna rhai mai ordin- had eglwysig yw, ac mai arwydd yw bedydd o'r hyn yw'r pechadur, sef ei fod yn edifarhau ac yn credu; barna ereill mai ordinhad oruchwyliaethol yw, ac fod bedydd yn arwydd o'r hya mae Daw o'i gariad ac o'i ras wedi ddarparu ar gyfer dyn fel pechadur. Ac y mae lîawer o ddynion da yn