Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Ehip. 327.] BHAGFYB, 1862. [Cîf. XXVIL ADGYFODIAD CRIST. GAN Y PARCH. T. DAYIES, LLÂNELLI. Dahltjtíie y ffaith fawr o adgyfodiad ein Harglwydd oddiwrth y meirw, drwy yr honyr " eglurwyd (ef) yn Fab Duw mewn gallu," ar dudalenauy Testament Newydd fel un o brif athrawiaethau ffydd y Cristion, a gwystl ei adgyfodiad dyfodol. Baich pregethu Paul oedd, "farw o Grist dros ein pechodau ni, yn ol yr ysgrythyrau; a'i gladdu, a'i gyfodi y trydydd dydd, yn ol yr ysgrythyrau." Eto, er fod genym y sicrwydd llawnaf am y ffaith o adgyfodiad Crist, teimla meddwl yr ymofynydd ymchwilgar an- hawsderau lawer drwy y gwahanol ddulliau yn mha rai y cofnodir am- gylchiadau ei adgyfodiad gan y pedwar efengylwr. Nid am fod y ffeith- iau a gofnodir ganddynt yn anghyson â'u gilydd; ond gorwedda y prif anhawsder mewn cysoni y pedwar hanes yn y fath fodd ag i ddwyn allan drefnganlyniad naturiol, llawn, a chyson o'rhyn gymeroddle. Cyn y gellir gwneud hyn mewn dull boddhaol, rhaid cymeryd rhai pethau yn gan- iataol fel modrwj'au i gysylltu ffeithiau â'u gilydd, y rhai sydd heb hyny yn anghysylltedig. Yn herwydd hyn, nid oes ond ychydig iawn o esbon- wyr wedi mabwysiadu yr un dull i gysoni adroddiadau yr ysgrifenwyr santaidd. Mae yn wir hefyd fod mwy o anhawsderau ymddangosiadol yn y ddosran fer hon o'r hanes efengylaidd nag a geir yn yr holl ddosranau ereill. TJn achos o anhawsderau^ymddangosiadol yn y pwnc dan sylw yw, tuedd y darllenydd i gymeryd yn ganiataol fod pob efengylwr yn rhoddi hanes llawn o holl amgylchiadau cydfynedol a dilynol adgyfodiad ein Har- glwydd. Pe byddai felly byddai rhwystrau agos anorchfygol i gysoni eu hadroddiadau. Oblegyd hyn, gosodiad anwyl gelynion Cristionogaeth yw, fod yr efengylwyr yn dilyn traddodiadau gwahanol ac ansicr, ac i bob un ysgrifenu cymaint aga^wyddai; acynamyntumiantfodyr anhawsderau a'r anghysonderau sydd yû cyfodi o'r dybiaeth hon fel yn ddigonol i wrth- brofi ysbrydoliaeth, ac i ddymchwelyd crededd yr hanes efengylaidd. Ond y mae arolygiad o'r tudalenau cysegredig yn ddigon i ddangos fod y fath osodiad yn^hollol anniffynadwy. G-an na welodd ysgrifenwyr yr efengyl- au yn addas, pan yn gweithredu dan arweiniad Ysbryd Duw, i gofnodi holl weithredoedd a dywediadau ein Harglwydd, ond detholasant y pethau perthynasol i'r amcan neillduol oedd ganddynt hwy mewn golwg, nid yw yn debygol y gwnaethent gofnodi pob peth gymerodd le yn amser ei ad- gyfodiad, ond y detholent y pethau perthynasol i'r amcan neillduoloedd ganddynt hwy mewn golwg. A dywed Ioan yn bendant gỳda golwg ar 45