Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YDíWYGIWR. Ehif. 331.] EBEILL, 1863. [Cyf. XXYLTI. MARI POWELL. GAN Y PARCH. J. M. THOMAS, CASNEWYDD. Mae ysgrifenu cofiantau am y meirw wedi myned yn waith cyffredin yn Nghymru. Nid oes íis yn myned heibio heb fod y misolîon yn dwyn ad- goíìon o rai wedi marw o flaen ein llygaid ; a gellir dyweyd yn ddiofn, nad oes gan neb reswm dros adael allan yn llwyr o'n cyhoeddiadau, ysgrifau byrion yn cynwys nodweddau cyfeillion ymadawedig. Yr hyn sydd yn myned yn faich i'r darllenydd ydyw, gweled colofnau lawer yn cael eu llenwi â hanes rhai nad oeddid yn gwyood dim am danynt tuallan i gylch eu cymydogaeth. Weithiau bydd colofn lenyddol yn cael ei chodi i ddyn, heb un linell yn ei fywyd yn ei hynodi, ac heb ddim ynddo yn tynu sylw, mwy nâ'r miîoedd sydd yn rhodio yn ffyrdd cyffredin bywyd. Gwaedd lluaws ydyw am beidio gyru o ílaen y cyhoedd, unrhyw beth na pherthyn i'r Dywysogaeth, ac na ddylid peri iddynt hwy dalu am fywgi-affiad dyn- ion anghyhoedd. Pe ufyddheid i lais fel hwn, byddai llawer o rai nad ydynt gyhoedd, ond eto o wir werth ac o hynodrwydd yn eu byd hwy—y cwinwd lle maent yn byw—}'n cael eu gadaeli syrthio i lwch anghof, pan fyddai eu pwysigrwydd yn nghylch eu cymdeithas wedi effeithio llawer mwy er daioni ar foesau a meddwl, na llawer ydyntyn adnabyddus mewn haner dwsin o siroedd. Mae genym yn Nghyrnru wroniaid anadnabyddus— dynion wedi eu cyfansoddi o ddefnydd nad ellir ei chwalu yn llwch rhwng* bys a bawd ; a dynion mewn llafur parhaus, yn gwir weithio er codiad y rhai a ddeuant o fewn eu cyrhaedd. Mae swydd wedi gwneud ambell un yn uwch o'i ben na'r werin ; nid dim ynddo ef: tyner y talp sydd dan ei draed—y swydd mae'n geisio lanw—ymaith, yna tafler y llinyn mesur drosto, a cheir gweled ei fod yn ogyhyd a miloedd o'i amgylch. Mae gweddillion meddyliol a chrefyddol canoedd o lafurwyr angíiyhoedd yr eglwysi yn rhy werthfawr i'w gadael i orj)hwys yn ystafellau anghof; ac os ydyw llawer yn troi üygad ymaith, ac yn ystyried y lluaws o gof-feini a godir i arwyr Cristionogaeth fel pethau rhy gyffredin, erys canoedd yn ein gwlad a deimlant anadl santaidd yn symud drostynt wrth wrando ar y meirwon yn llefaru, ac wrth gymdeithasu â bywyd, sef geiriau â gweithredoedd, y rhai a hebryngwyd i "dy eu hir artref." Os codir ambell i Gideon yn Israel gan Dduw, yn amser drjrgfyd, er adferu rhyddid i'r eglwys pan fethrir hi gan draed haiarn y gelyn, ac er chwalu y rhai ydynt yn ymfyddino i wneud niwed iddo, y mae ganddo hefyd ambell Ddeborah a gyfyd i gyflawni gwaith neillduol yn nhymor aflwydd- iant eglwysig. Mae yn meddiant ein hoes ni ambell Gideon a Deborah ; a byddai yn gam a hwy, a ni ein hunain, ae a'n holafiaid eu gadael dros gof. Ni honir fod yn mywyd neu yn marwolaeth Mari Powell bethau a'i codant uwchlaw canoedd o'i chwiorydd a gant orphwys yn y ddaiar hob