Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Ehir 353.] CHWEFEOE, 1865. [Cra XXX. JUDAS YN YR APOSTOLIAETH: PAHAM Y DEWISWYD EF P GAN Y PARCH. D. M. DAYIES, BLAENYCOED. " Oni ddewisais I chwychwi y deuddeg ? ac o honoch y mae un yn ddiafol."—Crist. Nid oes un gymdeithas yn rhy bur yn y byd hwn fel ag i beidio bod yn gyrnyeglyd. Y mae perffeithrwydd cymdeithasol yn egwyddor ddyeithr yn awyrgylch ein byd ni; ac nid rhyfedd i gymdeithas yr Oen dderbyn iddi hithau nodweddiad cymdeithasau ereill. Megys yr oedd ei phen o "had Abraham," ac felly "yn gyffelyb i'w frodyr," yn yr un ff'unud hefyd yr oedd y gymdeithas dan ei ofal yn cario gyda hi gyffelybrwydd i gymdeithasau yr un brodyr. "Ac o honoch y mae un yn ddiafol"— cymysglyd ydych. Gall llawer gasglu, èfallai, o herwydd i'r ddynoliaeth gael ei rhanu yn fydol ac eglwysig, y rhaid nad yw cymysgedd o ddrwg a da yn beth dichonadwy. Buasai hyn yn wirionedd pe y gallem edrych ar y byd a'r eglwys yn ddau drefniant a fuasai yn cario y drwg a'r da yn mlaen i ber- ffeithrwydd. Ond nid dyrua'r ffaith. Mae yn wir mai proffesu cynrych- ioli y da y mae yr eglwys; ac y mae can wired a hyny, y gallwn edrych ar y byd yr un mor broffesedig yn cynrychioli y drwg; ond proffesedig ydyw; nid ydyw y naill er hyny ddim heb redeg i'r llall. 0 bosibl nas gellir caol llawer o dda yn y byd; ond fel y mae gwaethaf y modd, ceir llawer mwy o ddrwg yn yr eglwys. Y mae y drwg, ysywaeth, yn llawer mwy eofn yn yr eglwys nag y mae y da yn y byd. Ac er i'r ddynoliaeth yn weledig fel hyn gael ei rhanu, nid yw y rhaniad yn y diwedd yn ber- ffaith ; ac nis gellir ei ddysgwyl tra byddo amgylchiadau pethau ar y ddaear y fath ag ydynt. Y mae gweled ambell Saul yn mysg y proffwydi, a Judas yn mysg yr apostolion, yn ein hargyhoeddi yn llwyr o'r ffaith nad yw perffeithrwydd cymdeithasol yn beth cyrhaeddadwy yn y byd hwn. " Ac o honoch y mae un yn ddiafol." Yn ol y gwreiddiol, yn wrthwy- nebwr, neu yn gelwyddog. Wele ddrwg y byd wedi ymwthio hyd y nod i'r eglwys hon. Efallai y gellir ystyried cymdeithas Mab Duw a'r deu- ddeg apostol yn un o'r rhai puraf, os nad y buraf, a w^elodd ein byd ni erioed. Yr oedd ganddi fwy o fantais i fod yn bur nag un gymdeithas ddynol arall. Yr oedd ei Hawdwr hi yn bur—yn anfeidrol felly ; purdeb oedd ei amcan mawr wrth ei sefydlu, a llestri purdeb a gwirionedd oedd