Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Ehif. 356.] MAI, 1865. [Ctf. XXX. IIANESYDDIAETÍI ATIIRAWIAETHAU. GAN Y PARCH. DAVID THOMAS, LLANGYNIDR. CYFNOD Y DIWYGIÁD PEOTESTANA.IDD. Yr Eglwys Ddiwygiedig. Yn yr ystyr eangaf o'r gair, y mae yn cynwya yr holl enwadau a darddodd allan o'r Eglwys Babaidd yn amser y Diwyg- iad Protestanaidd, fel ag y niaent wedi eu sefydlu yn y Cyfandir, Prydain, ac America; ond mewn ystyr briodol y mae yn cynwys yr eglwys hono a ffurfiwyd gan Swingl, ac a reoleiddiwyd gan Calfîn; gelwir hi yn gyffredin yn Eglwys Galfinaidd. Ffurfìwyd hi tua'r fìwyddyn 1520. Cafodd ei galw yn " Eglwys Ddiwygiedig " mewn cyferbyniad i'r Eglwys Luther- aidd, yr hon oedd yn ol barn Swingl a Calfin yn rhy Babj'ddol ei daliadau a'i defodau. Yr oedd yr auiser hwn bedwar gwron enwog ar y maes— Swingl a Calfin o blaid yr Eglwys Ddiwygiedig, a Luther a Melancthon o blaid yr Eglwys Lutheraidd. Yr oedd Swingl a Luther yn hynod o debyg mewn ysbryd a thymher; gwyllt a phoeth iawn oedd y ddau, heb fawr o amcan am reoleiddio eu hunain, dynion, na duwinyddiaeth. Yr oedd y ddau ereill hefyd yn hynod o debyg, wedi eu parotoi gan ragluniaeth y ffaill ar gyfer y llall, er rheoleiddio y ddau flaenaf, yn gystal a rheoleiddio duwinyddiaeth, a'r eglwysi a nodwyd. Maes llafur Luther a Melancthon oedd Germany, ac yn nhref Wittemberg y ffurfìwyd yr eglwys Lutheraidd gyntaf. Maes llafur Swingl a Calfin oedd Switzerland a Ffrainc. Ffurf- iodd Swingl yr Eglwys Ddiwygiedig pan oedd yn offeiriad yn mhrif eglwys Suric. Fel dyn dysgedig a duwinydd safai yn uwch na Luther, a hyn oedd yr achos iddo fyned gam yn mhellach nag ef oddiwrth yr Eglwys Babaidd; ac er na fu ond am ychydig o amser yn eglwys gadeiriol Suric, eto rhoddodd dro hollol i gredo a defodau yr eglwys, yn gystal a holl dal- aeth Suric. Yn y flwyddyn 1531, cododd y taleithiau Pabaidd wrthryfel yn erbyn talaeth fechan Suric yn herwydd ei hymadawiad a Phabydd- iaeth. Aeth Swingl i faes y frwydr gyda ei bobl, yn ol arfer y dyddiau hyny; ond ni fu nemawr o amser cyn cael ei ladd; darniwyd ei gorff yn dameidiau mân, ac yna llosgwyd ef yn ulw. Ar ol colli Swingl, daeth John Calfín i gymeryd ei le o blaid y Diwygiad a'r Eglwys Ddiwygiedig. Yr oedd erbyn hyn wedi cyrhaedd safle uchel fel duwinydd ; yr oedd yn awr yn athraw duwinyddol yn Mhrif Athrofa (ienefa, yr hon hefyd a gych- wynwyd trwy ei offerynoliaeth ef, ar ei symudiad o Ffrainc. Gweithiodd allan ddaliadau Swingl hyd nes yr oedd mwy o'i naws ef ei hun arnynt nag oedd o naws Swingl; ac fel hyn y trodd yr Eglwys Ddiwygiedig i gael ei ^alw yn ÍSglwys Galfinaidd. 17