Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. Rhif. 392.] TACHWEDD, 1865. [Cyf. XXX. SWYDD BROFFWYDOL YR ARGLWYDD IESU GRIST. GAN Y PARCH. W. EVANS, ABERAERON. " Wele rhoddais ef yn dyst i'r bobl, yn flaenor ac yn athraw i'r bobloedd." Mae yr ysgrythyrau yn cyfeirio yn bendant at Grist fel proffwyd yn gystal ag offeiriad a brenin. Desgrifir ef, nid fel un wedi cyûawni gwaith pro- ffwyd yn achlysurol, ond yn wastadol yn y swydd. Yr oedd ei osodiad yu fyfryngwr yn cynwys y swydd hon fel darpariaeth angenrheidiol i gwbl- au amcanion ei gyfryngwriaeth. Nid ydym yn cael ond am un gosodiad, neu eneiniad, perthynol i'r tair swydd. *Felly ystyriwn y tair, er mewn ystyriaethau pwysig yn wahaniaethol, eto yn anwahanedig, ac yn hanfodol gysylltiedig, yn gwneud un G-waredwr perffaith ac anranadwy. Mae yr Arglwydd Iesu örist yn bob peth, yn mhob peth—yn yr oll ag yw, yn mhob peth. Mae y fath unoliaeth yn ei swyddau cyfryngol, fel y mae o angenrheidrwydd yn eu gweini yr un pryd ; ac nid hawdd dangos llinellau terfynol y naill swydd na'r llall, fel y gellid penderfynu gyda sicrwydd i ba un y mae y naill beth neu y llall yn perthyn. Ni amcanwn at orfanyl- wch ar y mater, ond at yr hyn sydd eglur a phenodol. Grellid cynwys holl waith Crist fel cyfryngwr mewn trì gair—cymodi, dysgu, a ttywòdraethu. Fel offeiriad, ei waith yw gwneud cymod rhwng Duw a dynion drwy ei iawn a'i eiriolaeth. Fel proffwyd, ei waith yw dysgu dynion drwy ddad- guddio iddynt yr hyn sydd yn nglyn wrth eu hiachawdwriaeth. Fel brenin, ei waith yw teyrnasu yn ei bobl a thros ei elynion. Yn y blaenaf y mae dros ddynion at Dduw—yn yr ail y mae dros ac oddiwrth Dduw at ddynion—yn y trydydd y mae dros Dduw ar ddynion. Mae hyn oll yn cyfarfod yn y Cyfryngwr. Y bwysicaf o swyddau Crist yw yr offeiriad- aeth; oblegyd hi yn briodol yw sylfaen y ddwy arall. Mae y ddwy arall wedi derbyn eu bodolaeth drwyddi hi—wedi cangenu allan o honi, ac yn ganlyniad naturiol, er mwyn gweithio allan y cynllun mawr o gadw y byd drwy farwolaeth iawnol Mab Duw. Yn ein nodiadau presenol ar y swydd broffwydol, ceisiwn gadw em golwg o hyd ar yr amcan o honi, yn nghyd a'i chysylltiad angenrhei^ipl â rhanau ereill gwaith y Cyfryngwr. Bydd hyn, ar unwaith, yn ein har- wain i nodi allan yr arbenigrwydd a berthyn i'r swydd yfl jjiherson Crist. Nid oedd y proffwydi gynt yr un peth ag ef, er mewn rhaipethauyn tebygoli iddo—eu prif ddyben hwy oedd rhagfynegu anf dano ef, a ther- " eu swydd ynddo ef. Y mae yn unigol yn y swydd. Nid all fod 41 tebygol tynoda