Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIŴR. MEHEFIN, 1870. WLìùtb k €1$%òteûtyxûwò. GAN Y PARCH. W. WILLIAMS, HIRWAEN. A ydyw annibyniaeth eglwysig yn alluog o undeb a chydweithrediad Cristionogol ? Yr ydym yn ateb ei fod ar delerau penodol. Sylwn— Fod undeb ysbrydol aelodau yr eglwysi â Christ yn hanfodol iddo. Ni wna Annibynwyr ymuno a chydweithio yn Gristionogol heb eu bod yn gyntaf wedi eu huno â Christ a'u bod yn aelodau o'i gorff ef. Diehon ei fod yn ormod i ni gyfrif fod pob un sydd yn proffesu Cristionogaeth yn ein plith yn wir Gristion. Gwyddom hefyd fod gwybodaeth lluaws o aelodau ein heglwysi am y sefydliadau hyny sydd yn galw am eu cynorth- wy yn gyfyng iawn. t Er hyny, os byddant dan ddylanwad Ysbryd Crist, byddant yn sicr o gydymdeimlo â'r hyn sydd dda pan heb wybod am neillduolion ein sef- ydliadau. Braidd y gellir cael gwell maenprawf i brofi dyn yn Gristion na'r parodrwydd sydd ynddo i gynorthwyo yr hyn sydd dda, a sefyll dros yr hyn sydd wirionedd. Mae yr eglwysi Annibynol sydd mewn undeb â Christ mewn undeb â'u gilydd ya Nghrist. Maent yn meddu yr un cydymdeimlad at sefydliadau Cristionogol a buddiol, yr un parodrwydd i , gefnogi pob achos da. t Er ein bod yn credu mai undeb yr eglwysi Annibynol â Christ^yw g bywyd ein cydweithrediad, eto credwn fod pethau pwysif ereill ag y ? dylem dalu sylw iddynt er dyogelu cydweithrediad unol a pharhaus. Yr^ r ydym i gydnabod iawnderau ein gilydd fel plant yr Arglwydd. DylijJ*. cofio nad yw y berthynas sydd rhyngom â'r Arglwydd a rhyngom â'm gilydd yn graddoli, megys mae ein galluoedd a'n doniau yn fwy yn un a Ûai yn y Uall. Mae y credadyn gwanaf yn gymaint plentyn a'r mwyaf ei alluoedd a helaethaf ei brofiad. Dylid cydnabod hyn gan yr holl eglwys, ac yn neillduol gan y rhai sydd wedi eu dewie ganddi yn swyddogion. ■Peth arall, er sicrhau cydweithrediad dylid cydnabod oedran a phrofiad. "Cyfod gerbron penwyni, a pharcha wyneb henuriad; ac ofna dy Dduw; yr Arglwydd ydwyf fi." (Lef. xix. 32.) "Coron anrhydeddus yw pen- Hwydni, os bydd mewn ffordd cyfiawnder." (Diar. xvi. 31.) Cofier mai ewyllys Duw yw parchu henaint a phro^ptd. Drachefh, ymdrechwn adnabod ein hunain; nid yn unig ar gwybod ein bod yn ddynion duwiol, ond hefyd i wybod pa ddawn sydd*yn blaenori y§om. Dylai pob gweini- dog a diacon, a phob aelod yn eglwys Crist geisio gwybod beth yw y òaawn arweiniol sydd ganddo. Os byddwn yn awyddus am safle yn 21