Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. AWST, 1870. GAN Y PARCH. T DAYIES, LLANDILO. " Ac wedi ein dyfod i Jerusalem, y brodyr a'n derbyniasant yn llawen." Act, xxi. 17. Mae y geiriau uchod yn cyfeirio at y daith olaf o eiddo yr apostol Paul i Jerusalem. Yr oedd yn myned o dan faich trwm o deimladau dwysion a chynhyrfus. Mae y cyferbyniad rhwng prydferthwch ac ardderchog- rwydd y golygfeydd allanol, a sefyllfa meddwl yr apostol, yn fawr. Yr oedd yn morio yn y tymhor goreu, gyda'r glenydd tecaf, ac yn yr hin brafaf; ac eto yr oedd ei feddwl yn aros ar yr argoelion o dywydd garw oedd o'i flaen o'r dechreu i'r diwedd ; fel ag y mae rhyw liw neillduol o bruddaidd yn daenedig dros yr holl hanes. Os yw hyn yn wirionedd, mae yn naturiol i ni ddysgwyl y byddai i'r cyfryw brudd-der ddyfod i'r golwg yn y llythyrau a ysgrifenai tua'r amser ûyny» canys gwyddom fod teimladau dyfnaf y galon yn gwneud eu hunain yn adnabyddus yn ngohebiaeth unrhyw ddyn at ei gyfeillion. Felly yr ydym yn cael yn y llythyr at y Ehufeiniaid—llythyr aysgrifenwyd ganddo ychydig cyn iddo adael Corinth—ddangoseg neillduol o ddigalondid, pan oedd yn gofyn i'r Oristionogion yn Èhufain i weddio ar iddlo, pan gyrhaeddai Jerusalem, gael ei waredu oddiwrth y rhai oedd yn ei gashau yn Judea. " Eithr yr wyf yn atolwg i chwi frodyr, er mwyn ein Harglwydd Iesu Grist, ac er cariad yr Ysbryd, ar gydymdrech o honoch gyda myfì mewn gweddiau drosof fi at Dduw ; fel y'm gwareder oddiwrth y rhai anufydd yn Judea; ac ar fod fy ngweinidogaeth, yr hon sydd genyf i Jerusalem, yn gymeradwy gan y saint." Ehuf. xv. 30, 31. Teimlai yn bryderus iawn o Corinth yn mlaen gyda golwg ar y daith hon. Yr oedd yr Iuddewon yn cynllunio ei ddinystr yn aml. Pan yn Miletus, dywedodd fod yr Ysbryd Glan yn tystioiddo yn mhob diuas, gan ddywedyd, fod rhwymau a blinderau yn ei aros. Pan diriodd yn Tyrus, y peth cyntaf a glywodd oedd, echo ei ofnau ei hunan. " Ac wedi i ni gael dysgyblion, nyni a arosasom yno saith ûiwrnod; y rhai a ddywedasant i Paul trwy yr Ysbryd, nad elai i fyny i Jerusalem." Ad. 4. Mae hyn yn rhoddi achlysur i ni ofyn, gan nas gall Ysbryd y gwirionedd roddi oraclau ýn gwrthddywedyd eu gilydd, pa fodd y gallasai ddywedyd wrth Paul, yr hwn oedd yn rhwym yn yr Ysbryd yn myned i Jerusaìem, ani beidio myned yno ? Gallwn sylwi pan yr oedd llawer o'r dysgyblion 29