Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. HYDREF, 1870. GAN Y PARCH. W. JANSEN DAYIES, LLANYMDDYFRI. Ganwyd George Muller yn Kroppenstaedt, yn Prussia, ar y 27ain o Fedi, 1805. Yn mhen pum' mlynedd, symudodd ei rieni i Hennersleben, tua 4 milldir o le ei enedigaeth, lle'r apwyntiwyd ei dad yn dollydd (excìseman). Fel rhybudd i rieni, dylem ddyweyd fod ei dad yn fwy hoíF o George na'i frawd, yr hyn oedd er niwed mawr i'r ddau fachgen. I George, gan ei fod yn cynyrchu ynddo deimlad o hunan-dderchafiad, ac i'w frawd, drwy greu ynddo gasineb at ei dad a'i frawd George. Rieni, na wnewch frenin o un o'r plant, a chardotyn o'r llall, rhag ofn i'r brenin droi a'ch rhwygo chwi, a dinystrio'r teulu. Yr oedd eu tad yn addysgu'r plant yn hollol ar egwydd- orion bydol, ac estynai iddynt lawer o arian, ac ystyried eu hoedran; rhoddai arian iddynt, nid er mwyn iddynt eu gwario, meddai, ond er eu harfer i gadw arian heb eu gwario. Y canlyniad oedd i hyn yru'r ddau frawd i lawer o bechodau. Buasai George yn gwario rhan o'r arian mewn dull plentynaidd, a phan buasai ei dad yn edrych dros ei gyfrifon bychain, ceisiai ei dwyllo wrth wneud i fyny yr accounts, naill ai drwy beidio gosod i lawr yr oll o'r arian ymddiriedwyd iddo, neu drwy brotìesu fod mwy ganddo nag oedd mewn gwirionedd. Ac er i'r twyll yma gael ei ddad- guddio, ac iddo gael ei gosbi, eto ni chyfnewidiai ei fíyrdd. Cyn ei fod yn ddeg oed, cymerodd yn aml o arian y llywodraeth ymddiriedwyd i'w dad, arian fuasai rhaid i'w dad wneud i fyny; tra un diwrnod, gan ei fod o hyd yn colli arian, darganfyddwyd y lledrad, trwy i'r tad osod swm neillduol o arian yn yr ystafell yr arferai George fod, a gadael y bachgen yno wrtho'i hun am dipyn. Wedi ei adael fel hyn yn unig, cymerodd ran o'r arian, a chuddiodd hwynt dan ei droed yn ei esgid. Pan ddarfu i'w dad rifo'r arian ar ol dychwelyd, a gwel'd y golled, chwiliwyd George, a dadguddiwyd y lledrad. Ond er iddo gael ei gosbi yn drwm am y tro hwn a llawer tro arall, eto nid oedd darganíÿddiad ei bechodau yn gadael yr un argraíf arno, ond peri iddo ddyfeisio sut y gallai y tro nesaf ledrata yn ddiberygl. O ganlyniad, nid dyma'r tro diweddaf iddo wneud hyny. Pan oedd rhwng deg ac un ar ddeg, danfonwyd ef i Halberstadt i ysgol glasurol, i'w barotoi ar gyfer y brif ysgol. Dymuniad ei dad oedd iddo fod yn offeiriad—nid fel y byddai iddo yn gymaint wasanaethu Duw, ag iddo sicrhau iddo fyw- 37