Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. TACHWEDD, 1870. GAN Y PABCH. W. JANSEN DAYIES, LLANYMDDYFRI. (Parhad o tudal 299J Aeth yn awr o ddifrif at y gwaith o weddio ar yr Arglwydd am foddion at y gwaith, ac am bersonau cymhwys i'w gynorthwyo i gario y gwaith yn mlaen. Cafodd ei daraw gan eiriau'r Salmydd, "Lleda dy safn, a mi a'i llanwaf." Gosododd y swm o £1000 fel testyn ei weddi yn y dyfodol. Dechreuodd arian ddyfod i fewn yn raddol, a llawer o ddodrefn ar gyfer y ty, a dodrefn i'w gwerthu er mwyn y ty. Y mae yn derbyn o'r fíyrling i'r £100. Ac y mae y symiau bychain yn cael cymaint o le ac esboniad yn ei adroddiad a'r swm fwyaf. Yr oedd y symiau hyn yn dyfod i fewn braidd o bedwar ban y byd, oddiwrth bob oedran, o'r plentyn i'r hynaf- gwr; pob gradd, pob sefyllfa, a phob enwad o grefyddwyr; a deuent i fewn ar bob awr o'r dydd, a than bob math o amgylchiadau. Nis gofyn- odd i neb am ddimai. Nid oedd yn peidio am nad oedd ganddo hyder'yn ei frodyr crefyddol, nac o herwydd ei fod yn amheu eu cariad at eu Har- glwydd, ond fel y byddai llaw Duw i'w gweled gymaint a hyny yn fwy aralwg. Cafodd gynyg o dir gwerth £2000 i godi ty, ond nis derbyniodd ef. Yn mhen 18 mis a 10 diwrnod ar ol iddo ddechreu gweddio, cafodd y swm o £1000—y cyfraniadau yn amrywio llawer iawn yn eu swm; ond hanes pob un, y lleiaf yn gystal a'r mwyaf, wedi eu cofnodi yn fanol. "Y mae yr holl arian hyn," meddai, "a'r holl nwyddau a'r dodrefn, a'r holl gynygion ereill, wedi eu rhoddi heb i mi ofyn i'r un person am ddim ; a braidd yr oll wedi eu danfon gan bersonau na ddysgwyliwn y peth oddi- wrthynt, a llawer o honynt nas gwelais erioed." Nid oedd yn rhoddi yr un gefnogaeth i neb i ddanfon drwy gyhoeddi eu henwau, ond bob amser ni rydd yn ei adroddiadau ond rhyw lythyrenau neu arwyddion na bydd neb yn eu deall ond y rhai ddanfonasant yr arian. Y mae hyn yn amcan ganddo, fel y byddai yr holl roddion, nid er mwyn clod, ond o galon wir- foddol, haelionus, yn dysgwyl am dâl oddiwrth y weithred, a Duw, Barn- wr pob gweithred. Yn awr, wedi cael yr arian a'r dodrefn angenrheidiol, rhentodd dy yn Wilson Street, i ddal tua 30 o blant. Wedi gwneud hyn, cofiodd ei fod wedi anghofio am un pwnc yn ei weddiau, a hyny oedd, ar i'r Ârglwydd ddanfon plant i'r ty. Yr oedd wedi cymeryd yn ganiataol, ac yn wir, 41