Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. CHWEFROR, 1871. fâlîtmn jgẁir Wtòòi GAN Y PARCH. J. MILES, MERTHYR. [Darllenwyd y papyr canlynol ar y testyn uchod yn Nghyfarfod Misol Merthyr a'r cylch- oedd, pa un a gynaliwyd yn Nelson, Mawrth 14eg, 1870.] Mae gweddi yn tybied yr hwn sydd yn gweddio, yr hwn y gweddir arno, a'r hyn y gweddir am dano; a diamheu fod meddu syniadau cywir a phriodol am y tri hyn yn bwysig a hanfodol i bob un sydd yn ymwneud a'r gwaith o weddio. Y mae lle i ofni fod y gwaith pwysig hwn wedi ao yn cael rhy fach o sylw genym. Nid yn unig mae dosbarth eang i'w gael nad yw yn ymwneud a'r gwaith o gwbl, ond mae nifer luosog o'r rhai sydd yn ymwneud ag ef a'u syniadau yn anmherffaith iawn o berthynas iddo. Yr oedd yr hen bobl yn arfer rhanu gweddi i dri math, y weddi ddirgel, y saeth weddi, a'r weddi gyhoeddus. Y weddi ddirgel oedd yn cael ei hofîrymu yn gyson gan y gweddiwr yn ei ddirgel fanau pan nad oedd neb ond ef ei hun a'i Dad nefol yn gwybod ei fod yn gweddio. Y saeth weddi oedd y weddi fuasai yn cael ei hachlysuro gan ryw brofedigaeth lem ac annysgwyliadwy; yr oedd hon yn cael ei hoffrymu weithiau yn ddirgel- aidd, bryd arall yr oedd y gweddiwr yn tori allan, heb yn wybod iddo ei hun braidd, ac yn gweddio ar ei Dduw am gymhorth i wrthsefyll y brof- edigaeth. Y weddi gyhoeddus oedd y weddi fuasai yn cael ei hoffrymu mewn manau cyhoeddus, ac mewn dull cyhoeddus, megys bod yn gweddio yn y gynulleidfa neu rywle cyhoeddus cyffelyb. Nid ydym yn awr yn myned i benderfynu cywirdeb nac anghywirdeb, priodoldeb nac anmhri- odoldeb y rhaniad uchod, ond gallwn ddyweyd hyn, ei fod yn ymddangos i ni nad oes gwir wahaniaeth yn wreiddiol a hanfodol rhwng y weddi ddirgel, y saeth weddi, a'r weddi gyhoeddus. Dichon fod gwahaniaeth yn yr amgylchiadau o gyích iddÿnt. Dichon fod y corff yn wahanol, ond yr un enaid sydd yn y tair. Nid ydym yn gwyboẁ» oedd golwg gan y brodyr ar y gwahaniaeth hyn pan yn rhoddi y testyn i ni; beth bynag, os oedd- yQt, ni ddarfu iddynt nodi pa un o'r tair oeddym i gymeryd, buont mor garedig a chaniatau rhyddid i ni ddewis ein llwybr. Nid yw amser yn