Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. BRÌLLTÌ872T GAN Y PARCH. W. JANSEN DAYIES, CASNEWYDD-AR-WYSG. (Parhad o tudal 72.) Un boreu haf hyfryd, tna'r flwyddyn 1630, yr oedd yna nifer o fechgyn o Saville,' yn tynu at dy y paentiwr enwog, Murillo, lle y cyrhaeddasant yn agos yr un pryd. Ar ol y cyfarchiadau eyffredin, aethant i mewn i studio, neu weithdy, y paentiwr. Nid oedd Murillo yno eto, a cherddodd pob un o'r ysgoleigion i fyny yn fuan at ei painting, i edrych a oedd y paent wedi sychu, neu i edrych dros waith y prydnawn blaenorol. " Atolwg, fonedd- igion," meddai un o'r enw Isturitz, yn ddigllon, "p'un o honoch arosodd ar ol yn y studio prydnawn neithiwr Y' " Y fath ofyniad gwrthun," atebai Cordova, "ai nid ydych yn cofio i ni gyd fadael gyda'n gilydd." "Bhyw johe flfol yw hon," atebai Isturitz, "neithiwr glanheais fy mwrdd lHw gyda'r gofal mwyaf, ond yn awr mae mor frwnt a phe buasai rhywun wedi bod yn ei ddefnyddio trwy y nos." " Edrychwch," meddai Carlos, "dyma lun bychan yn nghongl fy nghanvas I, a 'dyw e' ddim wedi ei wneud yn ddrwg chwaith. Fe garwn I gael gwybod pwy sydd yn difyru ei hunan bob boreu drwy dynu lluniau, weithiau ar fy nghanvas, pryd arall ar y mur- iau." Gyda y geiriau hyn dyma Mendez yn ddiofal yn cerdded i fyny at ei waith, pryd y clywid ef yn arllwys allan eiriau o ryfeddod, ac edrychai mewn syndod ar ei ganvas, ar yr hwn yr oedd wedi ei frasddarlunio y llun mwyaf prydferth o ben y Forwyn. Yr oedd dull y wynebpryd mor rhag- orol, y llinellau mor glir, yr ystum mor weddus, fel o'i gymharu a'r ffigyr- au oedd o'i gylch, a ymddangosai fel pe buasai rhyw ymwelydd nefol wedi disgyn i'w mysg. " A, beth yw y mater," meddai rhyw lais cras. Trodd yr ysgoleigion o gylch, a rhoddodd pob un fow isel i'w meistr. " Edrych- wch, Senor Murillo, edrychwch," meddai yr ysgoleigion tra y pwyntient allan ganvas Mendez. " Pwy baentiodd hwn, pwy baentiodd hwn, fon- eddigion Y' gofynai Murillo yn awyddus; " siaradwch, dywedwch." Yr hwn dynodd y forwyn yna, a fydd un diwrnod yn ben arnom olL Byddai yn dda gan Murillo pe byddai ef wedi tynu hwna. " Y fath ^ffyrddiad, y fath fanylwch, y fath gelfyddyd! Mendez, fy nysgybl anwyl, ai chwi wnaeth hwn î" "Nage, Senor,'' meddai Mendez, mewn Uais cwynfanus. 13