Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. MAWRTH, 1873. GAN Y PARCH, G. JOHN, CHINA. " Pwy wyt ti, y mynydd mawr ? ger bron Zorobabel y byddi yn wastadedd ; ac efe a ddwg allan y maen penaf, gan weiddi, Rhad, rhad iddo."—Zech. iv. 7. Gofynib i mi rai gweithiau a ydwyf yn credu ei bod o fewn cylch posibl- rwydd i efengyleiddio China fawr. Y inae yn dda genyf allu datgan fy mod yncredu hyny yn ddiysgog, ac na fu fy ffyddyn y posiblrwydd erioed yn gryfach nag yw yn bresenol. " Ond beth am yr anhawsderau ar y ffordd?" medd rhyw un; "meddyliwn mai nid peth hawdd yw dwyn China fawr o dan lywodraeth Iesu Grist." Gwir, eithaf gwir. Os edrychwn ar yr anturiaeth fel un ddynol, rhaid cyfaddef ei bod yn ym- ddangos yn anobeithiol iawn ; ond os yw Cristioneiddiad China yn rhan o fwriad a chynllun Duw, y mae y cyflawniad gogoneddus nid yn unig yn bosibl, ond yn sicr, obìegyd " y pethau sydd anmhosibl gyda dynion sydd bosibl gyda Duw." Nid wyf yn cau fy llygaid ar yr anhawsderau; yr wyf yn eu gweled yn eglur, ac yn eu teimlo yn ddwys; a fy amcan penaf yn y sylwadau canlynol fydd ceisio eich dwyn chwi i'w teimlo hefyd. Y mae arnom eisieu eich gweddiau mwyaf dwys a difrifol, a'ch cydym- deimlad mwyaf gwirioneddol a thrwyadl. Ond mewn trefn i weddio yn ddwys, rhaid teimlo yn ddwys; ac mewn trefn i deimlo yn ddwys, rhaid oael golwg ar y gwaith yn ei fawredd a'i anhawsderau. Cristioneiddiad China yw y pwnc yr wyf am alw eich sylw ato, ac yn benaf oll yr anhawsderau sydd ar ffordd Cristioneiddiad China. Beth yw enwau a natur y rhwystrau y mae y cenadwr yn dod i gyffyrddiad a hwy yn ei ymdrechion i Gristionogi y wlad fawr acw ? I. Yr Iaith. Mae y rhwystr hwn megys ar y trothwy. Nis gellir gwneud dim nes tori trwyddo, neu ei symud i ffwrdd yn gorfforol. Nid peth hawdd yw dysgu un o ieithoedd Ewrop, a'i meistroli yn ddigon trwyadl i feddwl yn ddigyfrwng, a siarad a phregethu ynddi gyda chywirdeb, ac yn ol anian neu briodwedd yr iaith. Ond y farn gyffredin yw mai chwareu plant yw dysgu un o'r ieithoedd hyn mewn cymhariaeth a dysgu y Chiniaeg. Teimla y masnachwyr estronol mai iaith galed yw hi. Dywedant y medrant yn mhob gwlad arall bigo allan ddigon o eiriau a brawddegau i gario eu masnach yn mlaen yn iaith y wlad. Gallant wneud hyny, er