Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. EBRILL, 1873. |f Äŵ a'r %Mû\ (&mûA pcr* GAN Y PARCH, G. JOHN, CHINA. " Ac wedi iddynt ddyfod a chynull yr eglwys ynghyd, adrodd a wnaethant faint o bethau a wnaethai Duw gyda hwy, ac iddo ef agoryd i'r Cenedloedd ddrws y ffydd."—Act. xiv. 27. Dyma beth wnaeth Paul a Barnabas ar derfyniad eu taith genadol gyntaf. Gadewch i mi gynyg gwneud yr un peth ar ddiwedd y rhan gyntaf o fy> mywyd fel cenadwr yn China. Eich gwaith chwi yw y gwaith; y mae yn ddyledswydd arnoch chwi, yn gystal ac arnaf finau, i deimlo pryder a gofal am dano; ac y mae genych hawl i wybod oddiwrth y cenadon a ddychwelant i'r wlad hon o bryd i bryd sut y mae yn myned yn mlaen. Wel, chwi wyddoch mai cenadwr o China wyf fi, a fy mod wedi treulio pymtheg mlynedd yn y wlad hono. Treuliwyd y chwech gyntaf yn Shanghai, a'r wlad o amgylch y ddinas enwog hono; a threuliwyd y naw olaf yn Hankow, y farchnadfa fwyaf yn y deyrnas. Trwy y pymtheg mlynedd hyn yr wyf wedi teithio, fel pregethwr yr Efengyl, dros ranau helaeth o naw o'r dair talaeth ar bymtheg y rhenir China iddynt, ac wedi byw gyda fy nheulu mewn mwy nag un o'r dinasoedd canol-dirol. Fe fyddai yn beth hawdd i mi i'ch arwain o dalaeth i dalaeth, a desgrifio agwedd naturiol, cyfoeth mwnol, amaethyddiaeth, gweithiau, masnach, ac arferion a defodau China fawr. Ond mi a gyfyngaf fy sylw yn bresenol i un ran o*r ymherodraeth, ac i un orsaf genadol. Yr wyf am ddyweyd rhywbeth wrthych am y gwaith cenadol sydd wedi cael ei gyflawni yn Hankow. Ond cadwch mewn cof fy mod yn gwneud hyny nid oblegyd fy mod yn edrých ar y gwaith yn Hankow yn fwy pwysig, gwirioneddol, calonogol, neu mewn un ystyr arall yn rhoddi mwy o foddlonrwydd nag mewn manau ereill yn China, ond yn unig o herwydd fy mod yn gwybod mwy am dano, ac y gallaf siarad o'i gylch gyda chywirdeb, mànylder, ac awdurdod. Fe ddywedir wrthym rai gweithiau gan ddynion na wyddant ddim am y cenadon a'u llafur, fod y rhan fwyaf o honynt yn gwag-dreulio eu hamser meẃn segurdod, a bod y lleill yn ofer-dreulio eu hamser yn ceisio cyflawni, yn ddifrifol a gonest, waith anmhosibl. Yr wyf yn bwriadu y tro hwn i ddyweyd y gwir, yr holl wir, a dim ond y gwir, mewn perthynas i'r gwaith yn Hankow, a gadael i chwi eich hunain iroi barn o gylch ei natur, yn nghyd â chymeriad y gweithwyr. 13