Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWE. **>/**wrfW*í-«>v\*VS/*J^/W\/v/yy* HYOREF, 1873. %fimŵmìr g Wámìitynty. [Darllenwyd y Byrdraith canlynol yn Nghyfarfod Undeb yr Annibynwyr Cymreig yn Nghaernarfon, Medi 3ydd, gan y Proffeswr Morris, Coleg Aberbondda.] Y PEESDEB 0 WEnODOGION. Y mae penderfyniad y Pwyllgor i alw sylw yr TTndeb at y mater hwn yn awgrymu fod prinder o weinidogion yn mysg yr eglwysi Annibynol Oym- reig yn Nghymru a Lloegr. Nid oeddwn I erioed wedi meddwl fod rhy w anghyfartaledd neillduol rhwng y supply a'r demand, hyd nes y ceisiwyd genyf gymeryd y pwnc o dan fy ystyriaeth. Ond ar ol gwneuthur ym- chwiliad manwl o berthynas i nifer y gweinidogion sydd ag eglwysi o dan eu gofal, yn nghyd â nifer yr eglwysi sydd heb weinidogion, yr wyf wedi caei allan fod " y cynauaf yn wir fawr, a'r gweithwyr mewn cymhariaeth yn anaml." Y ffaith ydyw, nad oes genym ond 494 o weinidogion ar gyfer 616 o gylohoedd gweinidogaethol. Gwelwn, gan hyny, fod 122 o weithwyr yn eisieu i wneud i fyny y diffyg. NIFEE Y GWBINIDOGION NEWYDD SYDD EISEBU BOB BLWYDDYN. Gallesid darparu yn raddol ar gyfer y diffyg difrifol hwn, pe buasai angeu yn arbed y rhai sydd yn bresenol yn y gwaith; ond y mae yn rhaid iddynt hwythau farw, megys ereill. " The tall, the wi&e, the reverend head mmtlieashw as ours." " Y tadau, pa le y maent hwy? a'r proffwydi ydynt hwy yn fyw byth ?" Y mae yn angenrheidiol, felly, nid yn unig i lanw y bylchau a fodolant eisioes, ond hefyd y bylchau a gymerant le yn y dyfodol drwy weinidogaeth angeu. Y mae ysgrifenydd yn y Chrùtian Witness yn cyfrif mai 33 blwyddyn ydyw hyd gyrfä weinidogaethol ein gweinidogion ni yn Lloegr, a'u cymeryd gyda'u gilydd. Y dull a gymer- odd i benderfynu y cyfartaledd hwn ydoedd drwy gymeryd cyfanswm blynyddoedd gweinidogaeth 106 o frodyr ymadawedig, a rhanu y cyfan- swm cydrhyngddynt. Nid oes yr un rheswm, hyd y gwn ni, dros i ni beidio cymhwyso yr un safon at y weinidogaeth Gymreig. Ac os cymerwn 33 blynedd fél ein safon, y mae yn dçligon hawdd cyfrif pa nifer o weini- dogion fydd yn eisieu bob blwýddyn i lanw y byloh.au a wneir mewn 616 o 37