Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. GHWEFROR, 1874. GAN Y PABCH. W. B. MORGAN, MAESTEG. [Cyhoeddir y bregeth hon ar gais Cynadledd Cyfarfod Chwarterol Cyfundeb Deheuol Mor- ganwg, ac yr ydym ninau yn înawr gefnogi y cais.—Gol.] " Pa beth ydyw yr Hollalluog, fel y gwasanaethem ef ? a pha fudd fydd i ni os gweddiwn arno?" (Job xxl 15.) Mae dyn yn dal perthynas â dau fyd—y materol a'r ysbrydol, y gweledig a'r anweledig, yr amserol a'r tragywyddol. Gall hawlio perthynas â'r naill yn ogystal â'r llall. Y mae dyn yn fath o babell cyfarfod—Ue cyd- gyferfydd yr ysbrydol a'r materol. Grall olrhain ei achyddiaeth trwy wahanol rywogaethau o greaduriaid islaw iddo ei hunan, hyd at yr abwydyn sydd yn gwanaidd ymsymud cydrhwng bodolaeth a dyddimdra, a theimlo yno mai ymdroi yn mhlith ei berthynasau y mae; ac oddiyno gymeryd.ei wibdaith feddyliol, gan adael nef ar ol nef ar ei oí, a myned i mewn i nefoedd y gogoniant; a dringo heibio i'r tywysogaethau, y medd- ianau ac awdurdodau, y cerubiaid, y seraffiaid, ac angelion, a chyfarch y Person gogoneddus sydd yn eistedd ar yr orseddfainc, a theyrnwialen y cyfanfyd yn ei law, gan ostyngedig honi perthynas ag ef. Ac fel y cyfryw, y mae ar ddyn eisieu cynaliaeth ac ymdrafodaeth ysbrydol, yn ogystal ag y mae ei natur yn gofyn am gynaliaeth ac ymdrafodaeth naturiol; a'r moddion neu y oyfrwng ordeiniedig gan Dduw, a chyfaddas i ddyn, er dwyn hyn oddiamgylch yw gweddi. Wrth weddi yr ydys yn arfer meddwl y rhan hono o addoliad ysbrydol, cynwysedig mewn cyfarchiad teyrngarol a gostyngedig, cyfaddefiad o'n diifygion yn ngwyneb haelfrydedd a charedigrwydd y Creawdwr tuag atom, yn nghyd â dymuniadau am faddeuant, a gofyn am gynorthwy i ddefnyddio y doniau hyny er ein hanrhydedd ein hunain fel creaduriaid moesol, ao er gogoniant i'r Brenin mawr. Y mae yr elfenau hyn yn gy- sylltiedig â'u gilydd yn hanfodol i weddi effeithiol. Nis gallwn agoshau at yr Arglwydd yn ìawn heb ymdeimlo a meddwl am ei fawredd a'i ogon- iant; hefyd addef ein hymddibyniaeth arno a'n rhwymedigaeth iddo, mewn ysbryd diolchgar a molianus. Dyna a olygwn yn syml ydyw elfenau gweddi hoyddianus gyda Duw. " Mae gweddi, neu effeithiolrwydd gweddi, wedi bod yn fater ag y mae rnyw ddŵsbarth o ddynion wedi bod yn amheu a dadleu yn ei gylch yn