Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. MEHEFIN, 1874. ŵéE GAN Y PARCH. S. D. JONES, PENBRE. [Ymddangosodd Pregeth alluog ar Weddi yn ein rhifyn ara Chwef ror diweddaf; hyderwn ei bod wedi cael sylw neillduol gan ein darllenwyr; sylwa yr awdwr ar Weddi mewn ystyr athronyddol ÿn benaf. Traddodwyd y Bregeth gänlynol yn Nghyfarfod Chwarterol Capel Isaac, Chwefror 2óain, 1874, ac argreffir hi ar gais y cyfarfod. Gwel y darllenydd y sylwa Mr. Jones ar Weddi mewn ystyr dduwinyddol yn benaf.—Gol.] " Na ofelwch yn ofidus am ddim, eithr yn mhob peth mewn gweddi ac ymbil gyda diolch- garwch, gwneler eich deisyfiadau chwi yn hysbys gerbron Duw."—Phil. iv. 6. Mae yr apostol yma yn anog y Philipiaid at wahanol ddyledswyddau cre- fyddol, sef i undeb a chydweithrediad, amynedd, llawenydd, ac yn eu plith i weddi ac ymbil, gyda diolchgarwch. Yr ydym yn cyfarfod yn aml â'r gair gweddi ar dudalenau yr ysgrythyrau santaidd, a bod yr arferiad o alw ar enw'r Arglwydd mewn gweddi yn bodoli er yn foreu iawn. öyfrwng masnach rhwng nefoedd a daear yw gweddi. Mae gweddi fel llong y marsiandwr yn trosglwyddo defnyddiau o'r naill wlad i'r llall. Mae y gweddiwr yn anfon llong gweddi ar hyd y môr o waed a darddodd ar Galfaria, i wlad yr hedd, yr hon a ddychwel yn llwythog o fendithion i'w gynal yn yr anial dir. Gweddi yw anadl yr anian dduwiol sydd yn y Cristioö, a thrwy weddi y mae yn cael ei chynal- iaeth. Allwedd trysorfa trugaredd yw gweddi. Y mae dyn mewn gweddi yn cael myned trwy yr ystorfa hoD, ac yn cael dewis ei fendith. Mae yno lawer o fendithion wedi eu nodi gan y duwiol; deuant yn fedd- iant iddo cyn hir. " Gweddi," meddai un, " yw yr ysbryd yn myned at Dduw i roi tro, ac mai dyma'r peth tebycaf o bob peth i farw; canys beth yw marw ond yr ysbryd y# dychwelyd at Dduw yr hwn a'i rhoes ef ?" " Gweddi," meddai un arall, " ydyw y fraich sydd yn ysgogi y fraich sydd yn ysgogi y bydysawd." Gweddi, yn ol tystiolaeth y Beibl, ydyw tywallt- iad y galon gerbron Duw mewn deisyfìad taer a gostyngedig am ryw fendith neu fendithion arbenig, yn ddirgel neu yn gyhoeddus, gan ber- son unigol neu bersonau yn gymdeithasol. Dosberthir gweddi i bedair rhan—cydnabyddiaeth o fawredd Duw, cyfaddefiad o bechod, deisyfiad am fendithion, a diolchgarwch am gy- mwynasau derbyniedig. Sonir am amiyw fathau o weddiau yn y Beibl, sef y saeth weddi, megys eiddo Moses ar lan y môr coch. Yr oedd wedi myned yn gyfyngder arno, a dacw ef yn anadlu gweddi tua'r nef. M A'r 21