Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. CHWEFROR, 1876. GAN Y PARCH. W. THOMAS, WHITLAND. Wrth ysgol gân y golygwn gynulliad o feibion a merched cerdd, er mwyn cynorthwyo eu gilydd ac ereill mewn peroriaetli a chynghanedd gerddorol a barddonol. Nid oes un bwriad i sylwi ar yr ysgolion cân hyny gynelir er parotoi ar gyfer cyngherddau ac eisteddfod.au yn y traethawd hwn, o gymaint ag mai cynulliadau celfyddydol yn unig ydynt. Nid ydynt yn wasanaethgar i grefydd Crist yn uniongyrchol; hwyrach eu bod yn was- anaethgar iddi yn anuniongyrchol. Meddyliwn nad ydym yn cyfeiliorni pan osodwn yr ysgol gân grefyddol yn gyfartal mewn pwysigrwydd, ac ar yr un tir a r cyfarfod gweddi, y gyfeillach grefyddol, y cyfarfod parotoad, y cyfarfod pregethu, yr Ysgol Sabbathol, a'r cymundeb, pan y mae'r ysgol- ion cân ereill gynelir er parotoi ar gyfer eisteddfodau a chyngherddau ar yr un tir â'r ysgolion dyddiol ydynt yn addurno ein gwlad ni. Wrth ysgol gân grefyddol y golygir cynulliad o gantorion crefyddol awyddus i, ac yn medru " canu â'r ysbryd ac â'r deall." Crefydd yn gynhyrfydd i ymgyn- ull, a gwasanaethu crefydd yn bersonol a chymdeithasol yn amcan a ffrwyth y cynulliad. öylwn yn— I. Ar yr àngenrheidrwydd am ysgol gan grefyddol yn mhob EGLWYS. Y mae, mewn gwirionedd, yn hanfodol i ddedwyddwch a llwydd- iant crefyddol. Nis gellir bod hebddi, heb i ganiadaeth gynulleidfaol y cyfarfodydd i waelu, a myned yn aneffeithiol. Y mae yn angenrheidiol— 1. Er tynu allan holl allu cerddorol yr aelodau. Nid yw holl allu cerdd- orol yr eglwysi yn naturiol, yn gelfyddydol, ac yn ysbrydol, wedi ei ddodi allan hyd yn bresenol ar foliant y Duwdod. Ychydig nifer mewn cymhar- iaeth sydd yn ymhyfrydu yn moliant y Goruchaf fel dyledswydd a rhagor- fraint, ac ychydig o wrteithio y dalent ganu sydd wedi bod gan y nifer hono mewn cyferbyniad i'r hyn fuasai yn ddymunol. Y mae eisieu tynu allan alluoedd naturiol yr eglwysi er cael canu cynulleidfaol da. Nid priodol i fôd anfarwol fel dyn i esgeuluso un gallu, a bydd cyfrifoldeb eglwysi yn fawr am beidio mabwysiadu cynllun i sichau dadblygiad gallu mor werthfa-wr â'r dalent ganu, er gogoneddu y Duw sydd "yn ofnadwy mewn moliant." Yn yr ysgpl gân grefyddol fe ellir tynu allan alluoedd celfyddydol ac ysbrydol dynion er molianu Duw. Y mae gwybodaeth