Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. AWST, 1876. a SlfogfrMrat ÊMgîrìr. GAN Y PABCH. J. DAYIES, AMWYTHIG. [Darllenwyd yr Anerchiad canlynol yn Nghynadledd Cymanfa Maldwyn, yr hon a gynal- iwyd yn Llanidloes, Mehefiu 7fed a'r 8fed, gan y Parch. J. Davies, wrth roddi ei swydd i fyny fel Cadeirydd am y flwyddyn ddiweddaf, äc argreffir ef ar gais y gynadledd.—Gol.J Wrth daflu golwg gyffredinol dros ein heglwysi, yr ydym yn canfod er ein gofid mai ychydig mewn cymhariaeth yw nifer y gweithwyr diwyd ac egniol a geir yn ein plith. Mae llawer iawn o'r fyddin Gristionogol yn gorwedd ar y ddaear heb wisgo eu harfogaeth i fyned yn erbyn y gelyn- ion cryfìon sydd yn ymosod arnynt, ac o ganlyniad, trwy fod fel hyn yn ddiofal, y maent mewn perygl o gael eu drygu a'u niweidio gan y íyddin wrthwynebol. Wrth weled cyoiaint o allu a nerth yv eglwys yn gorwedd yn llonydd a diwaith, yr ydym yn barod i ofyn, I ba beth y mae y golled hon î Onid yw teyrnas y Cyfryngwr a sefyllfa y byd yn galw yn uchel am i'r gallu a'r nerth hyny gael eu gosod mewn gweithrediad ? Yr agwedd ddifywyd a diwaith a welir ar lawer yn ein heglwysi a arwein- iodd ein meddwl at y mater yr ydym am alw eich sylw ato yn bresenol, sef y herthynas sydd rhwng gweithgarwch yr eglwys a llwyddiant crefydd. Llawer iawn sydd o siarad a gweddi'o am lwyddiant achos Crist, ond y naae lle i ofni mai rhy ychydig sydd o feddwl yn mysg dynion fod y llwyddiant hwnw yn cael ei gysylltu ag amodau penodol, ac un o'r amod- au hyny yw gweithgarwch. Gellir dyweyd fod gweithgarwch yr eglwys yn un o delerau ei llwyddiant, yn un peth oblegyd— I. FOIJ Y DRYCHFEDDWL O SEFYDLIAD EGLWYS YN GOLYGU GWAITH. Y mae yn bur hawdd gweled oddiwrth weddi ymadawol Crist mai nid achubiaeth personol ei ddysgyblion yn unig sydd mewn golwg ganddo, ond hefyd eu dyogelwch fel cymdeithas yn y byd, a hyny er mwyn cyrhaedd amcanion mawrion ei deyrnas ef tuag at y byd. "Nid wyf yn gweddi'o," meddai, " ar i ti eu cymeryd hwynt allan o'r byd," y mae eu hangen yn y byd i gario allan íÿ amcanion mawrion tuag at y byd ei aunan; ond hyn yw ly ngweddi, " ar i ti eu cadw rhag y drwg," íel y 29