Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. MAI, 1877. farŵro %\ìml 0 3î&faẃlìrẃ m Iŵl. GAN Y PARCH. J. GRIFFITHS, CASNEWYDD. [Traddodw^'d y bregeth ganlynol yn nghyfarfod chwarterol Mynwy, ac argreffir hi ar gais y cyfarfod.—Gol.J " Ha! wyr Israel, clywch y geiriau hyn: Iesu o Nazareth, gwr profedig gan Dduw yn eich plith chwi, trwy nerthoedd, a rh)rfeddodau, ac arwyddion, y rhai awnaeth Duw trwyddo ef yn eich cunol chwi, megys ag y gwyddoch chwithau."—Actau ii. 22. Gall mater fel hẃn ymddangos ar yr olwg gyntaf yn un anmhriodol, ac un nad oes galwad am dano wrth bregethu i gynulleidfa o gredinwyr, y rhai sydd yn derbyn y Beibl fel gair Duw ; ond ei fod yn gyfaddas ac yn perthyn yn hytrach i'r rhai sydd yn gwadu dwytoldeb y Beibl, ac feüy mai i'r dosbarth hwnw y dylid pregethu ar y pwnc dan sylw. Ond oam- syniad ydyw hyn, oblegyd os ydyw dwyfoldeb y Beibl yn anmhriodol ac o'i le i'w drin uwchben cynulleidfa o gredinwyr, am eu bod yn ei gredu a'i dderbyn fel gair Duw, ar yr un tir hefyd y dylid gwrthod a pheidio dyweyd dim ar Ysbrydolrwydd Duw, ei Anfarwoldeb, Cyfiawnder a Sant- eiddrwydd ei gymeriad, ei Hollwybodaeth a'i Hollalluawgrwydd—fod ganddo arfaeth, a'i fod yn llywodraethu pob peth wrth gynghor ei ewyllys ei hun—fod ei galon yn llawn gras a thrugaredd faddeuol i bechadur— ymgnawdoliad y Mab—prynedigaeth i'r colledig trwy waed ac aberth— yr angen am ddylanwadau santeiddiol yr Ysbryd yn nghadwedigaeth pechadur—adgyfodiad a barn, a chyflwr o wobr a chosb yn aros da a drwg. Yn awr, fe dderbynir ac fe gredir y gwirioneddau hyn gan saint yr Arglwydd, ac eto fe ddywedir yn helaeth ac yn aml arnynt, ac yn wir, pe byddai yn anmhriodol i ddyweyd dim ar un mater ond y rhai a amheuir, byddai yn anhawdd, os nid yn anmhosibl, i ni yn Nghymru i gael yr un mater i ddyweyd arno, oblegyd y mae gwirioneddau y Beibi yn cael eu derbyn yn bur gyffredinol yn ein gwlad,- Hefyd, nid unig amcan pregethu ydyw argyhoeddi y pechadur a throi yr anedifeiriol o gyfeiliorni ei ffordd, ond hefyd eangu gwybodaeth y dychweledigion, a'u cadarnhau yn y ffydd, fel y "Byddoch barod bob amser i ateb i bob un a ofyno i chwi reswm am y gobaith sydd ynoch, gydag addfwynder ac J«" (1 Pedr iii. 15). A dyna ddywedai Luc (i. 1—4), "Yn gymaint â darfod i lawer gymeryd mewn Uaw osod allan mewn tretn draethawd am