Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. RHAGí!!L2?IL GAN Y PARCH. J. OSSIAN DAVIES, LLANELLI. Abferai llawer o honom gysuro ein hunain fod yr hen ystraeon am wrach-yr-ibyn yn mhob perth, bwgan yn mhob cwmwd, a chwn-bendith- mamau yn mhob talaeth, wedi eu claddu gan wareiddiad y pedwerydd canrif ar bymtheg mewn bedd rhy ddwfn i udgorn yr archangel eu hadgyfodi; ond, ysy waeth, mae Ysbrydegwyr wedi eu dwyn o'u beddau, ac wedi gwisgo hen ofergoelion yr oes a fu mewn rhibanau, gan eu bedyddio â'r enw clasurol—Ysbrydeg. Mae bwganod yr oes hon yn fwy beiddgar na'u " tadau." Nid ymfoddlonant ar fod yn ymwelwyr out-door ar y rhosydd ac yn y cymoedd gwledig fel cynt; ond mynant lety in-door weithiau, lle y curant ein byrddau, y chwareuantein cerdd-offer, y gyrant ein cadeiriau i ddawnsio, ac y cyflawnant fountebanciaeth teilwng o ffair Donnybrook. Crodwn mai hen "fwci'' Oymru mewn gwisg o ffasiwn yr Ianci yw Ysbrydeg y dyddiau diweddaf hyn. Haerant fod yr ysbrydion yn chwareu y berdoneg, er ei bod wedi ei chloi, a'u bod yn galluogi dyn i ddarllen llythyr, er ei fod wedi ei selio, i gario marworyn yn ei law ac yn ei logell, ac ar wallt ei ben ! Dygir blodau o rywle i'r bwrdd weithiau, ac y mae gan Mr. Alfred Wallace rai o fiodau byd arall wedi eu sychu ! Dywedir fod merch y Barnydd Edmunds, o America, wedi siarad ieithoedd na wyddai air o honynt; ac yr oedd gwestywr anllythyrenog yn y'r un wlad wedi traddodi araeth athronyddol iawn ar "Ewyllysa Ehagwybodaeth," ac yntau yn gwybod dim am y pwnc pan heb fod dan ddylanwad yr ysbrydion ! Perthynas agos i swyn-gyfaredd, a thesni, ac ofergoeledd, yw Ysbryd- eg. Deillia o'r un lfynonell ag oraclau Delphi, swynwyr yr Aifft, ser- ddewiniaid Caldea, a dawnswyr penboeth y canol-oesoedd. Dyna'r neeromancers yn siarad ag ysbrydion y meirw—dyna'r swynwyr yn gyru eu pleidwyr hygoelus i gwsg mesmeraidd—dyna'r sylldremwyr yn cymeryd dognau fferyllol er cael gweled i'r dyfodol—dyna'r breuddwydwyr yn gweled y tuhwnt i derfynau'r ddaear—dyna'r ser-ddewiniaid yn gallu darllen tynged dynion a theyrnasoedd yn y ser—a dyna y llaw-feirniaid yn gallu darllen dyfodol dyn ar linellau croesion ei law—mae y gwyr twyll- odrus hyn oll yn "gefnderiaid ■' i Ysbrydegwyr ein dyddiau ni. Mae §enym rai o'n cyfeillion goreu yn Ysbrydegwyr, ac ni fynem er dim dyweyd eu bod hwy am dwyüo y byd; ond credwn fod pob un gonost o 45