Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWtt. MEDI, 1878. §ẁbft $tt%0Òt n GAN T PARCH. B. DAYIES, TREORCI, "Eithr y ddeddf a ddaeth i mewn fel yr amlhäai y camwedd; eithr lle yr amlhaodd v pechod, y rhagor amlhaodd gras."—Bhüf. v. 20. * Mab yr adnod uchod gan yr apostol, fel yr enfys yn y cwmwl, yn grynhoad o'r iiiwiau eryfaf yn llywodraeth foesol Daw. Y mae ynddi swn gorsedd, hawliau yr hon nas gellir eu dyddimu, gruddfanau pechadur eolledig, a Hais trugaredd yn cyhoeddi ffordd i gyfiawnhau yr annuwiol. Y mae ynddi lais Barnwr cyfiawn, dyledwr heb ddim i dalu, a gras yn cynyg maddeuant i'r edifeiriol. Gwirionedd pwysig i droseddwr yw, nad yw, drwy dori cyfraith, yn gallu ysgar ei hun oddiwrthi. Mae hawliaú y gyfraith ar y naill law, a dyledswyddau dyn ar y Uaw arall, yn aros yr un. Nis gellir cyfrif yr ymdrechion a wnaed mewn gwahanol ddulliau i symud ytnaith bechod a'i ganlyniadau ; ond y máent mor bell o fod yn llwydd- ianus, fel mai o honynt hwy y mae pechod wedi derbyn ei borphor a'i y8garlad yn fynych. Y mae gwallgofrwydd ynddo ei hun yn cynyrchu teimlad tosturiol ynom at y gwallgof; ond pe gwelem y gwallgof yn cymeryd arfau marwolaeth i'w ddwylaw, ymgodai y teimlad o dosturi i ddychryn ac arswyd. Nid yw yn afresymol i ni dybied fod teimlad o dosturi, ar wahan oddiwrth boen, yn rhedeg drwy fynwesau creaduriaid santaidd yn llywodraeth Duw, wrth edrych ar ddynoliaeth yn ei gwarth a'i thrueni; ond pan welai y cyfryw yr ymdrechion a wnaed gan galon tygredig i gael gwared o'r cyfryw warth a thrueni, ymgodai y teimlad to8turiol i ddychryn, o herwydd gwelent nad oeddent ond arfau marwol- aeth yn Httw y gwallgof. Ychydig o bethau sydd yn ddigon mawr í gyfarfod â natur gyfan; ond y mae pecnod felly. Y mae bodolaeth pechod, a'i ddylanwad ar ein natur, wedi achlysuro llawer i ofyn pa fodd ? daeth pechod i'r byd. Yr un dosbarth ag sydd yn treulio eu hoes i ofyn y cŵésíiwn, syddhefyd yn treulio eu hoes i'w ateb—-dosbarth sydd yn gwneud leîaf i'w gael o'r byd. Mae yr atebion a roddir i'r cyfryw ofyniad agos mpr amrywiol ag ydynt o Iuosog. Damcaniaethau ydynt. ŴeithiffU ?yddyn ngair Duw; ac y mae digon o anhawsderau mewn ffeithiau heb 1 n» grea anhawsderau drwy ddyohymygion o'r eiddom ein hunain. 82