Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. RHAGFYR, 1878. ftgfólfer^ êttfyòM ^foyhìtmnm. GAN T PABCH. B. WILLIAMS, CANAAN, ABERTAWE. Nid oes un sefydliad yn fwy adnabyddus i grefyddwyr Cymreig na'r gyfeillach. Dyeithr hollol yw i'r Seison, ac nid oes ganddynt syniad cywir am ei natur na'i hamcan; a phe amcanai eglwys Seisnigyn nghanol Lloegr gynal cyfarfod ar ff'urf ac egwyddor y gyfeillach Gymreig, byddai yn dra sicr o droi allan yn fethiant gwaradwyddus. Mae teithi arbenig y gyfeillaeh yn gweddu ac yn cydgordio â theithi y meddwl Cymreig. Sefydliad perthynol i'n cenedl ni ydyw, ac nid yw yn ymddangos y gall flodeuo a liewyrchu ond yn ngwres a thanbeidrwydd y brwdfrydedd Cymroaidd. Amrywia ein heglwysi yn ddirfawr o ran rhifedi, cyfoeth, a dylanwad yr aelodau. Addola rhai o honynt mewn temlau gwych a chostfawr, tra mae ereill yn boddloni ar addoldai cyfyng, diaddurn a hollol annheilwng o'r amcan goruchel mewn golwg. Ehifa eanoedd o honynt nifer fawr o aelodau, tra mae ychydig o honyntâ'u rhif mor fychan fel nad oes yno ond prin digon i guddio gofynion yr addewid—" Canys He mae dau neu dri wedi ymgynull yn fy enw I, yno yr ydwyf yn y canol." Ond mae pob math o eglwys yn cynal ei chyfeillach wythnosol, ac ystyrid bod trychineb alaetbus wedi disgyn ar yr achos pe rhoddid hon i fyny. Dilewyrch a difudd yw y gyfeillach mewn llawer man, ond glynir wrthi trwy barch ac anmharch, a byddai mor hawdd darbwyllo y frawdoliaeth i gau drws y capel, a darfod yr achos, ag a fyddai ganddynt i gladdu y gyfeillach. Hen sefýdliad gwerthíawr yw, ac y mae ganddo& hanes gogoneddus. Nid oes neb fedr fesur ei ddylanwad ar grefyddoliad ein cenedl—dyma fagwrfa pregethwyr, a meithrinfa profiadau ysbrydoi y saint. Llawer a ysgrifenwyd i'w foli, a mynegu ei rinweddau, ond nid °es tafod wedi dadgan, na phin wedi ysgrifenu y fìlfed ran o'r daioni mae wedi wneuthur. Parhaed oesau lawer, ac na wawried y diwrnod tywyll, pan bydd ein cenedl wedi myned yn rhy gall a dysgedig i aliu gwneuthur heb y gyfeillach. Cyhoeddwyd, o bryd i bryd, wahanol gynlluniau er dwyn y gyfeillach ìn miaen yn effeithiol. Nid ein hamcan yw beirniadu y cyfryw yn breBenol i ond yr ydym wedi darllen rhai cynlluniau a gynygid i'n eylw 45