Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. AW8T, 1880. latei a'r 1#I. GAN GWYLIEDYDD. Mae y Babaeth yn camesbonio yr ysgrythyr er mwyn mantellu ei thywyll- wch. Yn lle y gair " Edifarhewch," ysgrifena mewn manau, " Telwch benyd "—gweithredoedd yn lle ffydd. Teifl allan o ambell gatecism yr ail orchymyn, ac yn y lleill newidia y geiriau " ac nac ymgryma iddynt" (sef y delwau) íel hyn—" ac nac addola hwynt." Dyma newid y gair er mwyn cael mantais i ymgrymu i'r delwau, os nad eu haddoli yn y fargen. Bu ffrae ffyrnig rhwng y duwinyddion Pabaidd unwaith pa un a oedd y cylla yn gallu treulio bara a gwin y cymun ai peidio; ond credwn mai pwnc i ddoctor meddygol ac nid i ddoctor duwinyddol yw pwnc yn dwyn y fath gysylltiad â chylla. Dadleuwyd cryn lawer hefyd pa un ai un ai dwy ewyllys oedd gan Iesu Grist! A bu y Dominiciaid a'r Ffrancisciaid yn brwydro yn boeth pa un a oedd meddianau ar ol Crist ai peidio, a galwyd cynghorau rai i Gaercystenyn i derfynu y mater, a thebyg iawn, po buasai yno hen lif, neu hen fwyell, neu lien forthwyl ar ei ol ef, y buasai mil neu ddwy o Babyddion yn perthyn yn agos iawn iddo, ac yn hawlio y relics yn lled ddigywilydd. Cyfeiliornus iawn yw esboniadaeth y Pabyddion o'r Beibl. " Chwiliwch yr ysgrythyrau," medd y Beibl. " Clöwch yr ysgrythyrau, os na bydd esboniad y tadau yn nglýn wrthynt," medd y Pab. " Maddeu pechodau am arian i raddau mawr," medd y Pab. " Heb arian ac heb werth," medd y Beibl—mae ein Duw ni yn rhy gyfoethog i werthu maddeuant, ac y mae y pechadur yn llawer rhy dlawd i'w brynu. " Bywyd tragywyddol trwy weithredoedd da, i gryn raddau," medd y Pab. " Trwy ras yr ydych yn gadwedig, drwy ffydd," medd y Beibl. " Pob sant yn mron yn gyfryng- wr," medd y Pab. " Nid oes ond un Cyfryngwr rhwng Duw a dynion, y dyn Crist Iesu," medd y Beibl. " Saith Sacrament," medd y Pab. " Dwy Sacrament> sef Bedydd a Swper yr Arglwydd," medd y Beibl. " Nac yfed y bobl gyffredin o'r cwpan cymun," medd y Pab, " ond yr offeiriad dros y bobl." " Yfwch bawb o hwn," medd y Beibl. " Na phrioded yr offeiriad er dim," medd y Pab, " bydded fyw yn weddw." " Anrhydeddus yw priodas yn mhawb," medd y Beibl; ac yr oedd gwraig gan Pedr, sylfaenydd yr Eglwys Babaiddj fel yr honant hwy I P'le mae gwraigei olynydd apostol- 29