Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIWR. TACHWEDD, 1880. Iẃìrfoi gr #es. GAN Y PARCH. D. CADFAN JONE3, ABERGrWILI. YfBD, diota, a meddwi—nid oes ond un farn gan y doeth a'r crefyddol mewn perthynas iddynt, a hono yn farn gondemniol; ac os gall ein sylw- adau ddwyn ar gof i'r eglwysi eu gwaith, a'u cynhyrfu i fwy o lafurus gariad yn hyn o orchwyl, byddant wedi ateb yr holl ddybenion oedd mewn golwg genym. Yn ol y cyfrifon sydd genym, dywedir fod dros £150,000,000 yn cael eu gwario yn flynyddol yn Mhrydain Fawr ar ddiodydd meddwol! ac yn agos i bedwar ugain mil o bersonau yn cael eu claddu bob blwyddyn yn medd y meddwyn!! Ffeithiau galarns ; ond fel y mae yn fwyaf difrifol mfìddwl, nid dyna'r oll o'r drygau sydd yn cael eu hachosi gan y diodydd meddwol. Chwilier ein carcüardai, ein helusen- dai, ein clafdai, a'n gwallgofdai—y mae eu celloedd yn llawnion o'r trueni a achoswyd ganddynt; ac nid yw yn gyfyngedig i'r manau hyn yn unig—y mae ein haneddau a'n heglwysi, ein hamgylchiadau a'n moesaa yn cael eu handwyo ganddynt. Oyfrifir y byddai enillion y deyrnas yn ddwbl i'w cymharu â'r cyllid a ddyganti raewn trwy drwyddedau, &c , pe tynai yn ol y nawdd a rydd iddynt. Gwerir yn flynyddol fwy ar garchar- au a swyddogion, yn nghyd â'r etceteras afrifed sydd yn rhwym o angen- rheidrwydd o'u dilyn, nag a ddygant hwy yn ol i goffrau'r deyrnas, heb son am y trethi trymion sydd yn beichio'r wlad drwyddynt. Yn ddi- betrue, yr ysmotyn duaf sydd yn aros ar gymeriad Prydain Fawr yw'r Achan hwn sydd yn cael llonyddwch i aros yn ei gwersyll. Faint bynag a ganmolir arni fel teyrnas rydd, oleuedig, lawn ei manteision, ao aml ei breintiau, er hyn oll, Prydain feddw yw yn yr ystyr eangaf i'r gair! Yn anffodus dilyna'r gwarthnod hwn y trigolion i ba le bynag yr ant. Tystiol- aeth yr Archddeon Jeŵeys, o Bombay, am danynt y w a ganlyn:—" Am bob Cristion a argyhoeddir ar y maes cenadol yn yr India, gwneir mil o feddwon drwy esiampl ddrwg y Prydeinwyr; a phe gyrid y Seison oddi- yno yfory, eu prif olion fyddent i'w gweled yn rhif anferth y meddwon a wnawd trwyddynt." Y mae'r ymarferiad â diodydd wedi myned mor gyffredin yn ein mysg, fel mai prin y credir y gellir na byw na marw yn iawn hebddynt. Cynal- ia&t ein meddwl i fyny mewn iselder, a chryihant ein hiechydpanyn wan;