Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

!W¥& CHWEFROR, 1883. îttîrírtrgüImet^Hit: ^Msmgsiá^. GAN Y PARCH. D. LEWIS, LLANELLI. Wrth Gristionogaeth y golygir y gyfundrefn grefyddol a sylfaenwyd gan Grist, oddiwrth yr hwn y derbynia ei henw, ac a hysbysir yn y Testament Newydd. Cyfundrefn wreiddiol i Grist yw. Nid crynodeb o athraw- iaethau wedi eu beuthyca oddiwrth athrawiaethau Dwyreiniol ei oes yw. Nid aralleiriad neu efelychiad o Iuddewaeth yw. Perthyna iddi rai pethau sydd yn gyffredin i Iuddewaith,—eto, nid dadblygiad o Inddew- aeth yw. Y mae yn wahanol ac yn annibynol i Iuddewaeth. Gwahan- iaetha oddiwrthi mewn tri pheth—ysbrydolrwydd, eangder, a symlrwydd. Y mae yn fwy ysbrydol yn ei natur, yn fwy eang yn ei chydymdeimlad, ac yn fwy syml yn ei defodaeth. Rhai o brif athrawiaethau Cristionog- aeth ydynt :—Mai un Duw sydd, bod y Duw hwnw yn dri pherson, Tad Mab, ac Ysbryd Glân; ymgnawdoliad Crist. Iawn, cyíiawnhad trwy ffydd, adgyfodiad y corff, anfarwoldeb yr enaid, a sefyllfa o wobr a chosb yn y byd a ddaw. Wrth fuddugoliaethau Cristionogaeth y golygir llwyddiant yr athrawiaethau hyn, yn nghyd â llwyddiant y moesoldeb hwnw sydd yn anatodol gysylltiedig â hwynt. Bychan a dinod oedd yu ei chychwyniad; yr oedd ei Sylfaenydd yn dlawd, ac yn hanu o deulu cyffredin, a dynion anllythyrenog o blith pysgotwyr Môr Galilea, yn benaf, oedd ei ddysgybl- ion cyntaf. Magwyd Cristionogaeth, fel ei Sylfaenydd dwyfol, yn nghryd tlodi, yn amddifad o âafrau a gwenau y byd. Ond, er hyn, llwyddodd i raddau yn ystod arosiad ei Hawdwr yn y byd—aeth y deuddeg yn ddeg a thri-ugain, a'r deg a thri-ugain yn ugain a chant. Llwyddodd yn fwy wedi ei esgyniad. Ychwanegwyd tair mil ar ddydd y Pentecost, a dwy fil arall yn mhen ychydig ar ol hyny. Yn fuan, torodd erlidigaeth allan o dan Herod, yr hon a fu yn foddion i wasgaru y Cristionogion, a lledu eu hegwyddorion yn fwy cyflym. Pa fwyaf a orthrymid ar yr Hebreaid yn yr Aifft, lluosocaf oll yr âent, a'r un modd, pa fwyaf yr erlidid ar ganlyn- wyr Crist y pryd hwn, amlaf oll yr âent mewn rhif, a chryfaf oll mewn nêrth a ffyddlondeb i'w hegwyddorion. Y mae pob erlidigaeth a fu ar