Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MAI, 1883. UÌM Ŵ GAN Y PAB.CH. W. I. MORRIS, PONTYPRIDD. Er fod ymddygiad gwrthwynebol yr oes hon yn gyflelyb i ymddygiad gwrthwynebol pob oes at y Beibl, ond ei fod yn gwahaniaethu yn uuig mewn gradd a ffurf, rhaid addef na fu yr Hea Lyfr erioed mor adnabydd- us, na fu yn cael ei ddarllen mor aml, yn cael ei fyfyrio mor drwyadl, nac yn cael ei barchu mor gyffredinol ag ydyw heddyw, ac, er hyny, na fu yr ymosodiadau arno erioed yn fwy maîeisus a phenderfyiiol. Ele yw y Uyfr gydd heddyw yn tynu fwyaf o sylw. Efe yw canolbwynt mawr y byd llen- yddol. Ato ef, yn uniongyrchol neu yn anuniongyrchol, gyda chymer- adwyaeth neu anghymeradwyaeth, y cyfeiria prif ddysgedigion yr oes eu sylw penaf. G-wna llyfrau ereill, am dymhor byr, ac o fèwn cylch cyfyng, sicrhau sylw rhai dynion i raddau mwy; ond buan y teflir hwynt o'rneill- du i roddi Ue i'r Beibl, a gwelir ef drachefn y prif lyfr. Cawn yn yr ysgrif hon daflu cipolwg ar YMOSODIADAU YR OES AR Y BEIBL. Er ucheled yw y bedwerydd canrif ar bymtheg mewn gwareiddiad, addysgiaeth, a chrefydd, ac er dyfned yw dylänwad y Beibl ar feddwl a chymeriad y byd, mae lle i ofni nad yw rhif ei ymosodwyr ddim yn lleihau, na'u nerth yn gwanychu. Mae Anffyddiaeth yn un, neu ragor o'i ffurfiau amrywiol, mor fyw ag erioed ; er, fe ddichon, nad mor chwerw a ffyrnig yn ei hymosiadau. Nid yn yr un ffurf, nac ychwaeth yn yr unman, y gwna ei hymosodiadau bob amser, ond amrywia y rhai hyn i ateb ei chyfleusderau ei hun. Edrychwn ar rai o'r manau yr ymosodir ar y Beibl— I. Ymosodir arno yn ei gymeriad dwyfol ddadguddiedio. Gellir ystyried Proff. Tyndall yn un o gynrychiolwyr mwyaf galluog a gwirioneddol Anffyddiaeth ddiweddar. Mewn erthygl ar "Y Sabbattt," a ymddangosodd yn y chwarterolyn a elwir " The Èineteeth Century," am Hydref, 1881, dywed fel y canlyn wrth gyfeirio at ddechreuad ybyd- yaawd :— "Gan mor gydnabyddus yr ydym ar hyn o bryd â!r bydysawd anfesurol, ac â'rnerthoedd sydd yn gweithredu o'i fewn, ymffdengys i ni 21