Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MEHEFIN, 1883. líîpíl/. GAN Y DIWEDDAR BARCH. NOAH STEPHENS. "Yr wyf yn gallu pub peth trwy Grist, yr liwn sydd yn fy nerthu I." Neu, " Trwy yr hwn sydd yn fy nerthu I."—Philippiaid iv. 13. Dyma i chwi ddadganiad beiddgar. Dyma i chwi ymhoniad hyf a ìlydan. Mae yn anmhosibl meddwl am dditn mwy hyf a beiddgar. Pe buasai Paul yn dyweyd y rhan gyntaf o'r testyn, ac yn gadael allan y rhan olaf, buasai yn ymddangos yn un o'r dynion mwyaf ymffrostgar a fu erioed. Ond y mae y diwedd yn rhoi gwedd arall, a gwedd odidog ragorol ar y dadganiad beiddgar a wneir ganddo—" Yr wyf yn gallu pob peth trwy yr hicn sydd yn fy nerthu J." Y mae ef yn cyflwyno y clod i gyd, yn hollol ac am-bybh i'r hwn sydd yn haeddu, a'r hwn 3-11 unig sydd yn gymhwys i'w dderbyn. Ynayradnodau 0 íiaen y testyn y mae Paul yn cydnabod caredigrwydd y Philippiaid tuag ato, a'u gofal tyner am dano—"Mia lawenychaìs hefÿd yn yr Arglwydd yn fawr, oblegyd i'chgofal chwi am danaf fì yr awrhon o'r diwedd adnewyddu." Bu y cymorth yn hir cyn dyfod. Nid oedd dim bai arnoch chwi. Chwi a fuoch yn ofalus. Nid anghof o'ch tu chwi oedd yr achosi mi fod cyhyd heb eieh caredigrwydd, onddiffyg cyfleusdra i anfony casgliad. Yr oedd eich meddwl, a'ch calon, a'ch llaw, a'ch llogell yn barod, oud nid oedd nebyn dyfod oddiyna tuag yma. " Ynyr hyn y buoch ofalus, ond eisieu cyfleusdra oedd arnoch. Nid am fy mod yn dywedyd 0 herwydd eisieu : canys mi a ddysgais yn mha gyflwr bynag y byddwyf, fod yn fodd- lou ynddo." Nid felly jr oeddwu yn naturiol. Dysgi hyn a wnaethym. " Ac mi a fedraf ymostwng, ac a fedraf ymhelaethu : yn mhob lle ac yn mhob peth y'm haddysgwyd, i fod yn llawn ac i fod yn newynog, i fod mewn helaethrwydd ac i fod mewn prinder." Dyma i chwi bendefig nefol —tywysog a gwr mawr— etholedig y nefoedd. Yr oedd Paul wedi ei gymhwyso i wasanaethu Duv/ yn efeng; 1 ei Fab ef. Yr oedd Paul yn ddigonoi i bob amgylchiad, oblegyd ei fod ef wedi ymgodi yn ddigon ucSiel uwchlaw rhyw fân amgylchiädau perthynol i'r bywyd sydd yr awrhon. fn lle gadael i amgylchiadau deyrnasu arno ef* yr oedd ef yn teyrnasu ar yr amgylchiadau. Yr oedd Iesu Grìst yn teyrnasu ynddo ef, ac yntau yn teyrnasu ar y pethau oedd o'i amgylch ef. Yr oedd Paul yn gymhwys i f >d yn weinidog yn unrhyw fan. Yr ocdd ef yn gymhwys i fod yn weiuidog yn 26